Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Nodyn briffio am Covid-19 – mae pethau’n gwella … ond nid ydym allan ohoni eto
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle
50
Arbenigwyr gwelyau hynafol Wrecsam yn dathlu 50 mlynedd
Busnes ac addysg
Ai dyma'r swydd i chi? Dyma ddetholiad byr o rai o’r swyddi sy’n wag ar hyn o bryd…
Ai dyma’r swydd i chi? Dyma ddetholiad byr o rai o’r swyddi sy’n wag ar hyn o bryd…
Busnes ac addysg
Terry Fox Run
Mae Ras Terry Fox yn dychwelyd
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Nodyn briffio am Covid-19 – mae pethau’n gwella … ond nid ydym allan ohoni eto
Y cyngor

Nodyn briffio am Covid-19 – mae pethau’n gwella … ond nid ydym allan ohoni eto

Diweddarwyd diwethaf: 2021/03/01 at 2:48 PM
Rhannu
Darllen 6 funud
Covid-19
RHANNU

Beth yw’r sefyllfa yn Wrecsam yr wythnos hon?

Rydym yn rhannu newyddion cadarnhaol gyda chi’r wythnos hon gan fod ein nifer o achosion Covid-19 yn parhau i ostwng. Ond nid ydym allan ohoni eto.

Cynnwys
Beth yw’r sefyllfa yn Wrecsam yr wythnos hon?Y newyddion diweddaraf am ysgolionY newyddion diweddaraf am y rhaglen frechuApwyntiadau brechu – gair i gallPeidiwch â chael eich twyllo gan sgam brechu Covid-19Byddwch yn wyliadwrusOs oes gennych symptomau…Ffynonellau gwybodaeth defnyddio

Y prif achos dros ledaeniad y clefyd yw trosglwyddiad rhwng aelwydydd, sy’n esbonio pam mae’r cyfyngiad i beidio â chymysgu ag unrhyw aelwydydd eraill yn dal i fod mewn grym. Mae’n bwysig ac mae angen i bob un ohonom wneud hyn am beth amser eto.

Covid-19

Y newyddion diweddaraf am ysgolion

Dechreuodd disgyblion y Cyfnod Sylfaen ddychwelyd i’r ystafell ddosbarth heddiw (26.02.21) ac os bydd nifer yr achosion Covid yn parhau i ostwng, dylai disgyblion eraill ddychwelyd ar Fawrth 15 a byddwn yn gadael i chi wybod beth yw’r cynlluniau.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Cofiwch:

  • Os ydych yn rhiant neu’n ofalwr i ddisgybl yn y Cyfnod Sylfaen, rhaid i chi wisgo mwgwd pan fyddwch yn danfon a chasglu eich plant.
  • Ni ddylech aros i sgwrsio nac aros o gwmpas tir yr ysgol na’r giatiau a dylech bob amser gadw 2m o bellter rhyngoch chi ac unrhyw un sydd ddim yn eich swigen aelwyd.
  • Mae swigod ysgol ar gyfer ysgolion yn unig, ni ddylai plant fod yn cymysgu’r tu allan i’r ysgol.
  • Ni ddylech anfon eich plentyn i’r ysgol os nad yw’n teimlo’n dda.
  • Dylech barhau i weithio gartref pan fydd y plant yn dychwelyd i’r ysgol.
https://newyddion.wrecsam.gov.uk/wp-content/uploads/2021/02/26.2.21-video-cymraeg-1.mp4

Y newyddion diweddaraf am y rhaglen frechu

Mae’r rhaglen frechu’n dal i gael ei rhoi ar waith yn Wrecsam ac mae’r cynnydd yn wych. Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd ddydd Mercher mai’r nod yw brechu pob oedolyn cymwys erbyn 31 Gorffennaf.

Ar hyn o bryd mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn gwahodd pawb sy’n 65 oed a throsodd (grŵp blaenoriaeth 5), yna oedolion rhwng 16 a 65 oed o’r grwpiau sydd mewn perygl (grŵp blaenoriaeth 6). Gwahoddir pobl i ganolfannau brechu a meddygfeydd meddygon teulu i gael eu brechiad, yn ôl trefn y grwpiau blaenoriaeth a bennir gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu.

Mae hi wedi bod yn hyfryd yn gweld chi a’ch teuluoedd yn derbyn eich brechiadau.

Diolch i’n timoedd, rydym yn symud yn gyflym i frechu’r grwpiau blaenoriaeth.

Gallwn gadarnhau – yn dibynnu ar y cyflenwad – y byddwn wedi cynnig brechlyn i bob oedolyn erbyn 31 Gorffennaf ????

— Llywodraeth Cymru (@LlywodraethCym) February 24, 2021

Apwyntiadau brechu – gair i gall

Mae nifer o bobl yn gweithio’n galed i roi’r rhaglen ar waith yn Wrecsam. Dyma rai pethau y gallwch chi eu gwneud i’w helpu.

  • Peidiwch â ffonio’r GIG neu eich meddyg teulu i ofyn am apwyntiad brechu (oni bai bod rhywun wedi gofyn i chi wneud hynny). Pan ddaw eich tro, byddan nhw’n cysylltu â chi.
  • Nid yw llawer ohonom yn ateb ein ffôn i rifau dieithr. Er hyn, os ydych yn un o’r grwpiau sy’n cael eu brechu ar hyn o bryd, efallai bydd y GIG yn eich ffonio os daw apwyntiad ar gael ar fyr rybudd.
  • Os byddwch yn derbyn gwahoddiad am apwyntiad, ond nad ydych eisiau cael eich brechu, rhowch wybod i’r GIG fel y gellir cynnig yr apwyntiad i rywun arall.
  • Pan fyddwch yn mynd i’ch apwyntiad, gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw pellter cymdeithasol, peidiwch â chyrraedd yn gynnar a dewch â mwgwd gyda chi. Dylech hefyd ddod â dull adnabod gyda’ch llun arno.

Peidiwch â chael eich twyllo gan sgam brechu Covid-19

Efallai bydd rhai pobl yn ceisio eich twyllo gyda negeseuon e-bost neu alwadau ffug am frechiadau.

Cofiwch…ni fydd unrhyw un yn gofyn i chi ‘gofrestru’ neu dalu i gael eich brechu, ac ni ofynnir i chi roi eich manylion banc na’ch cyfrineiriau.

Pan ddaw eich tro, bydd y GIG neu eich meddyg teulu yn cysylltu â chi.

Byddwch yn wyliadwrus

Dylech ymddwyn fel pe baech chi – a phawb rydych yn cyfarfod â nhw – o bosibl wedi eich heintio â Covid-19.

Cadwch at y cyfyngiadau presennol yng Nghymru a:

  • Peidiwch â chymysgu gyda phobl o aelwydydd eraill – a gall hyd at bedwar person o ddwy aelwyd wahanol wneud ymarfer corff gyda’i gilydd y tu allan.
  • Dylech deithio at ddibenion hanfodol yn unig…megis gwaith, rhesymau iechyd neu ddyletswyddau gofal.
  • Wrth i’r tywydd wella mae’n bwysig ein bod i gyd yn gwneud ymarfer corff ond cofiwch gerdded a pheidio â gyrru i wneud ymarfer. Mae ein meysydd parcio mewn parciau gwledig yn dal i fod ar gau i ymwelwyr.

Os oes gennych symptomau…

Os bydd gennych symptomau coronafeirws, gwnewch yn siŵr eich bod yn hunan-ynysu ac yn cael prawf.

Gallai fod y peth pwysicaf i chi ei wneud erioed.

Darllenwch fwy ar wefan Llywodraeth Cymru.

Ffynonellau gwybodaeth defnyddio

  • Gwefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â brechu (Gogledd Cymru)
  • Gwefan Llywodraeth Cymru – Cwestiynau Cyffredin am gyfyngiadau Lefel Rhybudd 4
  • Gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru – datganiad dyddiol

???? Mynnwch y ffeithiau…darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf am raglen frechu Covid-19 GIG Cymru ar gyfer Wrecsam a Gogledd Cymru ????

CANFOD Y FFEITHIAU

Rhannu
Erthygl flaenorol Wythnos Gweithredu ar Wastraffu Bwyd – ‘Mae gwastraffu bwyd yn bwydo newid hinsawdd’ Wythnos Gweithredu ar Wastraffu Bwyd – ‘Mae gwastraffu bwyd yn bwydo newid hinsawdd’
Erthygl nesaf week to go Maent wedi cyrraedd…????

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor Mehefin 30, 2025
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle Mehefin 30, 2025
50
Arbenigwyr gwelyau hynafol Wrecsam yn dathlu 50 mlynedd
Busnes ac addysg Mehefin 30, 2025
Ai dyma'r swydd i chi? Dyma ddetholiad byr o rai o’r swyddi sy’n wag ar hyn o bryd…
Ai dyma’r swydd i chi? Dyma ddetholiad byr o rai o’r swyddi sy’n wag ar hyn o bryd…
Busnes ac addysg Mehefin 27, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr

Mehefin 30, 2025
Rydyn ni'n chwifio'r faner ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Rydyn ni’n chwifio’r faner ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog

Mehefin 23, 2025
aging couple
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Heneiddio’n Dda – cewch wybod mwy ar 26 Mehefin

Mehefin 20, 2025
Adfywio treftadaeth barhaus yn cefnogi adeiladau allweddol yn Ardal Gadwraeth Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Adfywio treftadaeth barhaus yn cefnogi adeiladau allweddol yn Ardal Gadwraeth Wrecsam

Mehefin 17, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English