Mae Meysydd Chwarae Cymru yn dathlu parciau’r genedl ac mae dau o barciau Wrecsam wedi’u henwebu!
Mae Parc Haywards a’r Parciau ymhlith y 364 o barciau a mannau gwyrdd sydd yn y ras i gael eu dyfarnu’n Hoff Barc y DU ar gyfer 2022.
Mae ein parciau lleol wedi gweithredu fel lloches i gymaint ohonom dros y blynyddoedd diwethaf ac mae gwobr Hoff Barc y DU yn dathlu’r hyn sydd gan y mannau hyn i’w gynnig i’n cymdogaethau a’n cymunedau.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd, “Mae’n newyddion gwych bod dau o’n parciau anhygoel yn Wrecsam wedi’u henwebu ar gyfer y wobr hon. Mae mannau gwyrdd yn bwysig i bawb ac yn hanfodol o ran ein lles. Hoffwn annog pawb i gefnogi ein parciau a phleidleisio yn y bleidlais gyhoeddus genedlaethol a drefnwyd gan yr elusen mannau gwyrdd, Meysydd Chwarae Cymru.”
Dywedodd Helen Griffiths, Prif Weithredwr Meysydd Chwarae Cymru: “Rydym wrth ein boddau’n gweld bod cannoedd o barciau a mannau gwyrdd wedi’u henwebu ar draws y wlad. Mae’n galonogol clywed y straeon unigol o bwys am y mannau hyn ac mae’r
broses hon wedi pwysleisio’r pwysigrwydd cyfunol o gael ardaloedd naturiol yn ein cymunedau. Mae ein parciau cenedlaethol wedi bod mor bwysig yn ystod y pandemig, ac mae’n hanfodol ein bod yn eu dathlu, er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae ein plant a’n hwyrion yn haeddu cael yr un mynediad â ninnau at fannau gwyrdd, a chael budd o’r hyn sydd gan fannau gwyrdd lleol i’w gynnig o ran ein hiechyd, ein lles ein hamgylchedd, ac yn y pen draw ein dyfodol.”
Hoff Barc y DU ar gyfer 2022 – Pleidleisiwch nawr!
Mae’r bleidlais nawr ar agor ar Fields in Trust ar lein a bydd yn cau am hanner dydd, ddydd Iau 18 Awst 2022. Bydd y parc sydd â’r mwyaf o bleidleisiau yn Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn ennill gwobr am yr Hoff Barc Cenedlaethol, a dyfernir gwobr Hoff Barc y DU ar gyfer 2022 i’r prif enillydd.
Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.
TALU NAWR