Mae athrawon yn chwarae rhan enfawr yn ein bywydau ni.
Ac rydym ni i gyd yn cofio’r athrawon hynny fu’n ysbrydoliaeth i ni… y rhai a’n helpodd ni i fod yr hyn ydym ni heddiw.
Felly dydi hi ond yn iawn i athrawon gael y gydnabyddiaeth y maen nhw’n ei haeddu…
Oherwydd bod athrawon da wir yn arwyr 🙂
Enwebwch eich arwr addysgu…
Sefydlwyd Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru yn 2016 i anrhydeddu cyflawniadau athrawon ac ysgolion eithriadol ledled y wlad.
Felly os ydych chi’n athro, athrawes, myfyriwr, rhiant, cyflogwr neu gydweithiwr, ac yn gwybod am rywun yr hoffech chi ei enwebu, dyma’ch cyfle chi 🙂
Gwobrau 2019
Mae yna 10 categori ar gyfer 2019, gan gynnwys athro/athrawes y flwyddyn, pennaeth y flwyddyn, defnyddio’r Gymraeg mewn ffordd sy’n ysbrydoli a gwobr newydd sbon – ‘gwaith ieuenctid mewn ysgolion’.
“Ewch ati i enwebu”
Meddai’r Cynghorydd Phil Wynn, sydd â chyfrifoldeb arweiniol am addysg yn Wrecsam:
“Dyma gyfle gwych i bobl ddangos eu gwerthfawrogiad o waith caled ein hathrawon ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.
“Os cawsoch chi’ch ysbrydoli gan athro neu athrawes leol, ewch ati i’w henwebu am un o’r gwobrau hyn.”
Y dyddiad cau ar gyfer enwebu yw hanner nos, 30 Tachwedd (2018).
Os hoffech chi enwebu rhywun heb ddefnyddio’r ffurflen ar-lein, anfonwch neges e-bost i teachingawards@gov.wales gan nodi’ch manylion cyswllt a’ch dewis o gategori, ac fe wnaiff aelod o’r tîm gysylltu â chi.
Bydd enwau’r rheiny fydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn cael eu cyhoeddi ym mis Ebrill 2019.
CYFLWYNO ENWEBIADAU!