Mae Nick Underwood, Uwch Reolwr Prosiect yn Fraser Randall wedi dychwelyd yn ddiweddar i Wrecsam, cartref ei blentyndod, ac mae wrth ei fodd i fod yn rhan o brosiect sydd mor agos at ei galon.
Mae Fraser Randall wedi’i benodi’n Rheolwyr Prosiect Technegol ar gyfer ‘Amgueddfa Dau Hanner’ Wrecsam – Amgueddfa Wrecsam wedi’i hadnewyddu a’i gwella’n llwyr ochr yn ochr ag Amgueddfa Bêl-droed newydd sbon i Gymru, sy’n cael ei datblygu ar hyn o bryd y tu mewn i adeilad Amgueddfa Wrecsam ar Stryt y Rhaglaw.
Fraser Randall fydd yn gyfrifol am gaffael y contractwyr adeiladu Sylfaen a Gosod Allan, yn ogystal â rheoli’r cam Adeiladu nes bod y prosiect wedi’i gwblhau.
Ar ôl dychwelyd yn ddiweddar o Lundain i Wrecsam gyda’i wraig i fod yn agosach at ei deulu, bydd adleoli Nick yn arwain y prosiect hwn nes i’r amgueddfa agor yn 2026.
Mae gwaith cleientiaid Nick dros y blynyddoedd diwethaf yn cynnwys yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol arobryn (Oriel yr Ail Ryfel Byd ac Oriel yr Holocost), Distyllfa Midleton, Coleg Brenhinol y Llawfeddygon a’r Oriel Bortreadau Genedlaethol.
Cafodd Nick ei eni a’i fagu yn Wrecsam ar Lôn Barcas lle mynychodd yr ysgol gynradd leol. Yn 11 oed symudodd ei deulu i Rosrobin lle mynychodd Ysgol Uwchradd Darland cyn gadael i astudio ym Mhrifysgol Bryste.
Yn gefnogwr pêl-droed go iawn – mynychodd Nick ei gêm gyntaf gyda Chlwb Pêl-droed Wrecsam yn 4 oed, a dilynodd y tîm drwy gydol ei flynyddoedd ysgol, gan ddychwelyd adref yn aml i wylio’r gemau gyda ffrindiau lleol. Bu Nick hefyd yn chwarae i dîm lleol yn Wrecsam nes ei fod yn 21 oed a’i honiad i enwogrwydd yw iddo ennill rownd derfynol ar Y Cae Ras yn ystod ei arddegau!
Dywed Nick, “Fel cefnogwr pêl-droed o’r ardal leol, mae’n gyffrous iawn gweithio ar brosiect yr amgueddfa, a rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned y cefais fy magu ynddi. Nid yn unig ar gyfer pêl-droed, ond hefyd yr hanes a’r diwylliant o’r ardal leol. Mae adeilad rhestredig gradd II Amgueddfa Wrecsam ar Stryt y Rhaglaw wedi bod yn nodwedd amlwg yng nghanol y ddinas ers iddo gael ei adeiladu ym 1857 ac mae’n haeddu cael ei adnewyddu’n sylweddol er mwyn i’r gymuned leol allu mwynhau a dysgu mwy am hanes Wrecsam a Phêl-droed Cymru. .”
Mwy o gynnydd ar gyfer prosiect amgueddfa
Mae Amgueddfa Wrecsam bellach ar gau i’r cyhoedd er mwyn gallu dechrau ar y gwaith o baratoi’r adeilad ar gyfer ei ailddatblygu.
Disgwylir i’r prosiect gael ei gwblhau yn 2026.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Hoffwn ddiolch i bawb sy’n ymwneud â’r Amgueddfa Dau Hanner am y cynnydd gwych y maent wedi’i wneud wrth helpu’r prosiect i gyrraedd y cam carreg filltir hwn. Mae’n wych gweld un o’n hadeiladau nodedig yng nghanol y ddinas yn cael ei adnewyddu i fod yn atyniad cenedlaethol o’r radd flaenaf. Rwy’n siŵr y bydd pawb yn Wrecsam yn gyffrous i weld sut mae’r prosiect hwn yn datblygu cyn yr agoriad mawreddog yn 2026.”
Mae’r Amgueddfa’n cael ei datblygu gan dîm amgueddfa Cyngor Wrecsam ar y cyd â dylunwyr amgueddfeydd, Haley Sharpe Design a’r penseiri, Purcell. Mae’r prosiect yn cael ei gefnogi gydag arian gan Gyngor Wrecsam a Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth ychwanegol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae prosiect yr Amgueddfa Dau Hanner wedi derbyn £1.3m gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.”