Yn dechrau 3 Mehefin, ni fydd yn rhaid i fasnachwyr marchnadoedd dydd Llun Wrecsam dalu rhent ym mis Mehefin, Gorffennaf na mis Awst. Bydd hyn yn cynnwys masnachwyr presennol a masnachwyr newydd.
Meddai’r Cyng. Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi Cyngor Wrecsam: “Rydym ni’n lansio’r fenter hon i gefnogi masnachwyr marchnadoedd awyr agored a rhoi hwb i farchnadoedd canol y ddinas. Hon yw’r adeg berffaith i ymuno â’r gymuned farchnad sy’n mynd o nerth i nerth.”
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn masnachu, cysylltwch â wrexhammarkets@wrexham.gov.uk.