Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Masnachwyr twyllodrus yn targedu preswylwyr hŷn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Masnachwyr twyllodrus yn targedu preswylwyr hŷn
Arall

Masnachwyr twyllodrus yn targedu preswylwyr hŷn

Diweddarwyd diwethaf: Mai 5, 2020 11:48 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Covid-19 scams on your doorstep
RHANNU

Mae preswylwyr yn cael eu rhybuddio i fod yn wyliadwrus ar ôl achosion diweddar lle mae masnachwyr twyllodrus wedi targedu pobl hŷn yn yr ardal.

Digwyddodd yr achos cyntaf yn Holt, lle daeth dyn at garreg drws dyn 95 oed gan honni ei fod yn ‘blastrwr’.

Roedd y dyn yn fain, yn ei 40au, 6tr o daldra gyda barf byr, ac roedd yn gwisgo cap fflat. Curodd ar ddrws y dioddefwr a chynnig gwneud gwaith toi am £1,200.

Nid oedd gan y dyn gerdyn adnabod, ond roedd yn honni mai enw ei fusnes oedd ‘First Choice’. Yna rhoddodd bwysau ar y preswyliwr hŷn trwy honni bod ei eiddo mewn perygl o lifogydd ar ôl yr holl law trwm a gawsom y diwrnod blaenorol.

Dywedwyd wrth y preswyliwr y byddai dŵr yn diferu trwy’r nenfydau, os na fyddai’r gwaith yn cael ei wneud yn syth. Yn anffodus, rhoddwyd £300 i’r masnachwr twyllodrus.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Mewn achos arall yn ardal Wrecsam, targedwyd dynes ddiamddiffyn yn ei chartref gan ddyn oedd yn defnyddio’r enw ‘Alistair’

Llwyddodd y dyn i gael mynediad i’w chartref trwy ddweud ei fod yn asesu’r diffyg bwyd yn y tŷ oherwydd y coronafeirws oherwydd nad yw hi’n gallu mynd allan i brynu bwyd ei hun.

Nid oedd ganddo gerdyn adnabod ac roedd fel pe bai’n camarwain y ddynes o ran ei hunaniaeth ei hun. Yn gyffredinol, byddai gan pob gweithiwr gofal ac unrhyw un o’r cyngor gerdyn adnabod, a byddent yn gallu ei ddangos pan ofynnir iddynt.

Mae Safonau Masnach Wrecsam a Heddlu Gogledd Cymru yn cydweithio ar hyn o bryd i asesu’r ddau ddigwyddiad a darparu cefnogaeth i’r dioddefwyr. Mae’n bwysig peidio â gadael unrhyw un i mewn i’ch cartref yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn na welwyd ei debyg o’r blaen. Mae’n hynod o bryderus bod troseddwyr yn aflonyddu ar bobl ddiamddiffyn a’r henoed yn ein cymunedau.

Dywedodd y Cyng Hugh Jones, Aelod Arweiniol Pobl, Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedau: “Os bydd rhywun yn curo ar eich drws a dweud eu bod yn gweithio i’r cyngor neu unrhyw sefydliad arall, dylech geisio gwirio gyda’r sefydliad yn uniongyrchol i wirio bod y galwr yn ddilys, yn enwedig os nad oes ganddynt gerdyn adnabod. Bydd unrhyw weithiwr dilys yn deall hynny’n iawn ac yn fodlon aros i chi gwblhau’r gwiriad.

“Os na allwch chi fod yn siŵr a yw’r unigolyn yn dweud y gwir neu beidio, peidiwch â’u gadael i mewn i’ch cartref a pheidiwch â rhannu gwybodaeth bersonol â nhw. Os yw’r unigolyn yn dechrau ymddwyn yn ymosodol neu os ydych yn teimlo dan fygythiad o gwbl, ffoniwch yr Heddlu.”

Meddai Lawrence Isted, Prif Swyddog Cynllunio a Rheoleiddio: “Yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae’n bwysig iawn ein bod yn gofalu am deulu, ffrindiau a chymdogion. Yn yr achos penodol hwn, targedwyd unigolyn diamddiffyn yn fwriadol ac yn anffodus, rhoddwyd arian i’r masnachwr twyllodrus.

“Byddwch yn hynod o wyliadwrus o alwyr digroeso. Yn anaml iawn – os fyth – fydd busnesau dilys yn galw i’ch eiddo heb rybudd, felly peidiwch â theimlo pwysau i agor eich drws iddynt, heb sôn am gytuno i rhywbeth y byddwch yn ei ddifaru.

“Rhowch ddigon o amser i chi’n hun bob amser i feddwl am eich penderfyniad, ac os ydych yn ansicr am unrhyw beth, trafodwch gydag aelodau eich teulu a ffrindiau yn gyntaf.

“Os ydych yn credu bod angen gwneud gwaith ar eich eiddo, chwiliwch am fasnachwr ag enw da, neu dilynwch argymhellion gan bobl rydych chi’n ymddiried ynddynt. Bydd hyn yn eich helpu i aros yn ddiogel rhag trosedd ar stepen y drws.”

Os ydych yn dymuno rhoi gwybod am rywbeth amheus, cysylltwch â Gwasanaethau Cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133 neu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101.
(Sylwch fod neges ar wefan Cyngor ar Bopeth i ddweud eu bod yn cymryd mwy o amser nag arfer i ymateb).

I roi gwybod am rywun sy’n cyflawni bwrgleriaeth drwy dynnu sylw, neu fasnachwr twyllodrus sydd wedi cymryd eich arian ac sy’n dal yn yr ardal – ffoniwch 999.

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/”] Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Waste Helpwch ni i gasglu’ch ailgylchu yn ddiogel
Erthygl nesaf Play Mwy o awgrymiadau am bethau i’w chwarae yn ystod y cyfyngiadau ar symud presennol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

'Dathliad enfawr a gwyllt!' - Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
‘Dathliad enfawr a gwyllt!’ – Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Parciau am ddim ar ddiwrnodau gemau
Wrecsam v Preston: dewiswch y parcio a theithio
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o'n blaenau
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o’n blaenau
Y cyngor
Hydref 14, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 13, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Medi 29, 2026
Street lighting
Arall

Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English