Mae menter bwysig yn hybu ymdrechion i amddiffyn defnyddwyr lleol a busnesau bychain rhag y niwed sy’n cael ei achosi gan y fasnach gynyddol mewn nwyddau ffug ar grwpiau prynu-a-gwerthu lleol ar y cyfryngau cymdeithasol
Mae rhaglen Real Deal Online yn fenter genedlaethol sy’n sicrhau nad yw grwpiau prynu a gwerthu cyfryngau cymdeithasol yn hyrwyddo gwerthu nwyddau ffug a chynhyrchion anghyfreithlon eraill. Mae’n annog perthnasoedd gwaith agosach rhwng y grwpiau a’u gwasanaeth Safonau Masnach lleol.
Yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig bydd Safonau Masnach ledled Cymru gyda chefnogaeth y Grŵp Marchnadoedd Cenedlaethol, y Swyddfa Eiddo Deallusol ac Tîm eDrosedd y Safonau Masnach Cenedlaethol yn nodi grwpiau prynu a gwerthu yng Nghymru sy’n gweithredu ar y cyfryngau ymdeithasol. Cysylltir â gweinyddwyr y grwpiau i’w gwneud yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau cyfreithiol ac i’w gwahodd i ddilyn Cod Ymarfer Real Deal Online.
Mae’r Cod Ymarfer yn ei gwneud yn ofynnol i weinyddwyr grwpiau groesawu swyddogion Safonau Masnach yn aelodau o’r grŵp a chytuno i bum cam syml:
1. Gwahardd gwerthu nwyddau ffug a nwyddau anghyfreithlon eraill;
2. Gweithredu ar sail gwybodaeth gan berchnogion hawliau eiddo deallusol a’u cynrychiolwyr sy’n tynnu sylw at werthu nwyddau anghyfreithlon;
3. Rhoi gwybod i’r adran safonau masnach os ydynt yn credu bod nwyddau anghyfreithlon yn cael eu gwerthu o fewn y grŵp, ac yna eithrio gwerthwyr y nwyddau hynny;
4. Tynnu sylw at rybuddion a hysbysiadau cyngor a bostiwyd gan safonau masnach;
5. Sicrhau bod pob aelod o’r grŵp yn ymwybodol o’i bolisi rhydd rhag nwyddau ffug.
Bydd grwpiau gwerthu sy’n cytuno i ddilyn Cod Ymarfer y Real Deal yn cael arddangos logo’r Real Deal a fydd yn gweithredu fel sicrwydd gweledol i siopwyr ac i fasnachwyr ei fod yn barth siopa rhydd rhag nwyddau ffug.
Mae’r fenter newydd yn estyniad naturiol i ymgyrch y Real Deal sydd wedi bod ar waith mewn marchnadoedd ffisegol a ffeiriau cist car ers 2009 ac mae wedi gweld dros 500 o farchnadoedd ledled y DU yn cofrestru ar gyfer Siarter gwirfoddol y Real Deal i atal gwerthu nwyddau ffug. Mae’r ymgyrch wedi bod mor lwyddiannus fel ei bod bellach wedi’i hymestyn i arena ddigidol marchnadoedd ar-lein a chyfryngau cymdeithasol ac yn cael ei chyflwyno gan Wasanaethau Safonau Masnach awdurdodau lleol ledled y DU.
Mae’n hanfodol atal cyn gynted â phosibl unrhyw fasnachwr anghyfreithlon, sy’n credu y gall wneud arian hawdd trwy dwyllo defnyddwyr trwy werthu nwyddau ffug anghyfreithlon, o safon isel, sy’n aml yn beryglus.
Dywedodd Judith Parry, Cadeirydd Safonau Masnach Cymru: “Mae cyflwyno’r rhaglen hon yn dangos bod Swyddogion Safonau Masnach yn cymryd rhan weithredol wrth chwilio am unrhyw un sy’n hysbysebu nwyddau ffug ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol a byddant yn gweithredu’n briodol yn eu herbyn. Nid yw’r rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol bellach yn cuddfan rhwydd i’r rhai sy’n ceisio masnachu’n anghyfreithlon.
“Mae gwasanaethau Safonau Masnach yng Nghymru yn ei cyflawni gwaith rhagorol i warchod defnyddywr ac i gefnogi masnachwyr. Rwy’n gobeithio y bydd unrhyw un sy’n rhedeg grŵp gwerthu-a-phrynu yn ein hardal, drwy’r cyfryngau cymdeithasol, yn cael ei gymell i gymryd rhan yn y prosiect hwn a gofyn am gyngor gan yr adran Safonau Masnach i’w galluogi i redeg eu grŵp masnachu yn gyfreithlon ac yn gyfrifol.
“Mae mabwysiadu Cod Ymarfer y Real Deal ac arddangos y logo yn rhoi sicrwydd i aelodau grŵp ei fod yn lle diogel i brynu a gwerthu. Mae hefyd yn galluogi gweinyddwr y grŵp i anfon neges gref at unrhyw un sy’n ceisio defnyddio’r grŵp hwnnw’n ddi-betrus i werthu cynhyrchion anniogel neu ddifrodi busnesau lleol i gadw draw.”
Dywedodd Gavin Terry, Cadeirydd y Grŵp Marchnadoedd Cenedlaethol ar gyfer Diogelu Eiddo Deallusol: “Mae marchnadoedd ar-lein a chyfryngau cymdeithasol yn ffenomenon sy’n tyfu, gan gynnig llawer o fanteision economaidd a chymdeithasol. Yn union fel y gwna marchnadoedd a ffeiriau cist car yn y byd ffisegol, gall grwpiau gwerthu-a-phrynu lleol ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol ddarparu bargeinion gwych ac amgylchedd cyfeillgar, bywiog i unigolion fasnachu â’i gilydd. Fodd bynnag, gan nad yw marchnadoedd ar-lein a chyfryngau cymdeithasol yn cael eu rheoleiddio’n unffurf, gallant gynnig cyfleoedd hawdd i’r rhai sy’n dymuno aros ynghudd a masnachu’n anghyfreithlon, yn enwedig trwy werthu nwyddau ffug a thor-hawlfraint.
“Pan fydd masnachwyr anghyfreithlon yn symud i mewn i grŵp gwerthu lleol, mae llu o broblemau’n dilyn. Mae defnyddwyr yn cael eu twyllo ac yn prynu nwyddau israddol, a allai fod yn beryglus; mae refeniw yn cael ei golli o’r economi i’r farchnad ddu; ac yn aml mae’r fasnach mewn nwyddau ffug yn gysylltiedig â chyllido troseddau cyfundrefnol.”
Dywedodd Mike Andrews, Cydlynydd Cenedlaethol y Tîm eDrosedd y Safonau Masnach Cenedlaethol: “Byddai’r rhan fwyaf o siopwyr a gweinyddwyr grwpiau gwerthu-a-phrynu yn arswydo o feddwl y gallent, yn ddiarwybod, fod yn ariannu troseddau cyfundrefnol. Ac nid yw llawer o weinyddwyr yn ymwybodol, yn y pen draw, y gallent fod yn gyfrifol am ganiatáu i gynhyrchion anghyfreithlon gael eu hysbysebu gan aelodau o’u grŵp. Mae’r rhaglen Real Deal Online wedi’i chynllunio i helpu. Mae’n cynnig cyfle i unrhyw un sy’n rhedeg grŵp gwerthu lleol weithio’n agos gyda’r Gwasanaethau Safonau Masnach sy’n cymryd rhan a fydd yn eu helpu i gyflwyno gweithdrefnau i atal masnachwyr anghyfreithlon rhag ymuno â’r grŵp ac achosi niwed.”
Dylai unrhyw un sy’n rhedeg grŵp gwerthu-a-phrynu yn eu hardal, sy’n dymuno cofrestru ar gyfer Cod Ymarfer y Real Deal Online gysylltu â’u Gwasanaeth Safonau Masnach lleol.
Mae mwy o wybodaeth am ymgyrch y Reol Deal ar gael yn www.realdealmarkets.co.uk