Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cofiwch wirio pa ddiwrnod y cesglir eich biniau wrth i ni agosáu at y Nadolig
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Cofiwch wirio pa ddiwrnod y cesglir eich biniau wrth i ni agosáu at y Nadolig
Y cyngor

Cofiwch wirio pa ddiwrnod y cesglir eich biniau wrth i ni agosáu at y Nadolig

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 12, 2023 10:29 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Check your bin day Welsh
RHANNU

Mae bob amser yn syniad da gwirio pa ddiwrnod y cesglir eich biniau yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig.

Cynnwys
  • Pethau i’w nodi
  • Ailgylchu ychwanegol

Mae yna newidiadau i ddyddiau casglu arferol rhai aelwydydd dros gyfnod yr Ŵyl, ac mae hyn yn ffordd dda o wneud yn siŵr eich bod yn gwybod pryd i chi roi’ch biniau allan.

Gallwch wirio eich diwrnod biniau yma. Ni fydd angen i chi fewngofnodi i wirio eich diwrnod biniau, a gallwch wirio ar ran ffrindiau, teulu a chymdogion trwy deipio eu cod post neu enw eu stryd.

Rydym yn eich cynghori’n gryf i wneud hyn dros gyfnod y Nadolig, pan fo newidiadau i’r patrymau casglu arferol yn debygol.

Ffordd arall o gael y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â chasglu biniau yw cofrestru i dderbyn e-byst atgoffa. Os gwnewch chi hyn, fe gewch chi neges e-bost i’ch atgoffa i roi’ch biniau allan y diwrnod cyn y diwrnod casglu. Mae’n ffordd dda i ni adael i chi wybod ynglŷn ag unrhyw newidiadau sy’n effeithio arnoch chi hefyd.

Pethau i’w nodi

  • Yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 18 Rhagfyr, bydd pob cartref yn Wrecsam yn derbyn casgliad gwastraff cyffredinol (bin du/glas) ochr yn ochr â’u casgliad deunyddiau ailgylchu a gwastraff bwyd.
  • Yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 25 Rhagfyr, ni fydd unrhyw gartref yn Wrecsam yn cael casgliad gwastraff cyffredinol (bin du/glas) na chasgliad gwastraff gardd (bin gwyrdd) – dim ond casglu deunyddiau ailgylchu a gwastraff bwyd y byddwn ni ddydd Mercher, ddydd Iau a dydd Gwener.
  • Ni fydd unrhyw gasgliad ddydd Llun 25 Rhagfyr, na dydd Mawrth 26 Rhagfyr. Bydd preswylwyr sydd wedi cael eu heffeithio yn cael gadael gwastraff ychwanegol i’w ailgylchu yr wythnos wedyn, fel y nodir isod.
  • Yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 1 Ionawr, bydd pob cartref yn Wrecsam yn derbyn casgliad gwastraff cyffredinol (bin du/glas) ochr yn ochr â’u casgliad deunyddiau ailgylchu a gwastraff bwyd.
  • Ni fydd unrhyw gasgliadau’n digwydd ddydd Llun 1 Ionawr, felly yr wythnos honno bydd pob casgliad yn digwydd ddiwrnod yn hwyrach (gwiriwch ddyddiadau diwygiedig eich diwrnodau casglu).

Ailgylchu ychwanegol

Os bydd eich bocsys ailgylchu yn llenwi, fe allwch chi adael unrhyw deunyddiau ychwanegol i’w hailgylchu mewn cynhwysydd solet wrth ymyl eich gwastraff ailgylchu ar eich diwrnod casglu, ac fe awn ni â’r rheiny i’w hailgylchu hefyd (gan adael y cynhwysydd i chi ei ddefnyddio eto).

Ond os oes gennych chi ddeunyddiau ychwanegol i’w hailgylchu, cofiwch eu gwahanu fel y byddech chi’n ei wneud fel arfer. Er enghraifft, os oes gennych chi boteli gwydr a phlastig yn ychwanegol, rhowch y rhai plastig mewn un cynhwysydd a’r rhai gwydr mewn cynhwysydd ar wahân.

Hefyd, fe wnawn ni gasglu cardfwrdd glân wedi’i blygu’n fflat ac wedi’i adael wrth ymyl y cynhwysydd, cyn belled ag nad ydi o’n dalach na’n lletach na sach glas safonol.

Cyngor ynglŷn ag ailgylchu cyn y Nadolig – Newyddion Cyngor Wrecsam

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa.

TAGGED:ailgylchubiniaubinsrecycling
Rhannu
Erthygl flaenorol Housing Cyllid ECO 4 Wrecsam bellach ar agor i geisiadau
Erthygl nesaf Menter ar y gweill i geisio atal gwerthu nwyddau ffug ar grwpiau cyfryngau cymdeithasol lleol Menter ar y gweill i geisio atal gwerthu nwyddau ffug ar grwpiau cyfryngau cymdeithasol lleol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026
Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English