Efallai eich bod wedi darllen yn ddiweddar ein bod yn bwriadu cyflwyno pwyntiau gwefru ceir mewn meysydd parcio ar hyd a lled y fwrdeistref sirol: https://newyddion.wrecsam.gov.uk/oes-gennych-chi-gar-trydan/
Wel mae’n bleser gennym adrodd bod y Bwrdd Gweithredol newydd gymeradwyo’r cynigion a bydd y pwyntiau gwefru yn cael eu gosod yn fuan ym meysydd parcio’r Byd Dŵr, Tŷ Pawb, Parc Gwledig Tŷ Mawr, Parc Gwledig Dyfroedd Alun a Thraphont Ddŵr Pontcysyllte. Mae’r cynllun yn ategu ymrwymiad ein cyngor i leihau carbon ac arbed ynni.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.
“Gwneud “Addewid Awr Ddaear”
Mae’r Gronfa Bywyd Gwyllt (WWF), trefnwyr yr Awr Ddaear, wedi gofyn i ni wneud “Addewid Awr Ddaear” – addewid a fydd yn helpu i amddiffyn y blaned a dangos ein hymrwymiad i leihau allyriadau carbon, a bellach gallwn wneud yr addewid yma i’r WWF trwy osod y peiriannau gwefru yma.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Rydym ni fel cyngor wedi ymrwymo i leihau allyriadau a’n hôl troed carbon ar draws y fwrdeistref sirol. Mae’r cynllun yn cyd-fynd â nifer o’n mentrau gwyrdd eraill sydd yn cynnwys Fferm Solar gyntaf Cymru, Legacy, a gosod paneli solar ar eiddo cyngor. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dymuno cael sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030 ac mae’r Deyrnas Unedig yn gobeithio rhoi’r gorau i werthu ceir disel a phetrol erbyn 2040, ac felly bydd y fenter hon yn cynorthwyo i gyrraedd y nodau hyn.”
“Diffodd goleuadau am awr”
Mae’r Awr Ddaear bellach yn ddigwyddiad blynyddol byd eang, a fydd yn cael ei gynnal eleni ar 24 Mawrth. Gofynnir i bawb ddiffodd eu goleuadau am awr am 8.30pm gan ymuno â thirnodau ledled y byd megis y Senedd yng Nghaerdydd a Phont Harbwr Sydney.
Gallwch ddysgu mwy yma: href=”https://www.wwf.org.uk/wales/earthhour
COFIWCH EICH BINIAU
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.