Mis Ebrill yw Mis y Plentyn Milwrol, sy’n tynnu sylw at rôl bwysig plant milwyr yng nghymuned y Lluoedd Arfog.
Mae’n gyfle i gefnogi teuluoedd y Lluoedd Arfog a’u plant oherwydd yr aberth maen nhw’n ei wneud bob dydd a’r heriau maen nhw’n eu goresgyn.
Rydym wedi derbyn cyllid i oleuo Neuadd y Dref yn biws fel rhan o ymgyrch Mis y Plentyn Milwrol ar ddydd Gwener, 26 Ebrill.
Dewiswyd y lliw piws am ei fod yn symboleiddio pob cangen o’r fyddin; mae’n gyfuniad o Wyrdd y Fyddin, Glas y Llu Awyr, Glas Gwylwyr y Glannau, Coch y Môr-filwyr a Glas y Llynges.
Meddai’r Cyng. Beverley Parry Jones, Cefnogwr y Lluoedd Arfog: “Mae bywyd plentyn milwrol yn cynnwys llawer o symud o gwmpas, dechrau ysgolion newydd a gwneud ffrindiau newydd. “Trwy gael Mis y Plentyn Milwrol dynodedig, a digwyddiadau fel goleuo Neuadd y Dref, gallwn ddysgu am yr holl aberthau sy’n rhaid i’n teuluoedd milwrol eu gwneud.”
Mae rhagor o wybodaeth ar gefnogi plant milwrol yng Nghymru i’w gael ar y wefan: Gwefan SSCE Cymru: Cefnogi Plant Milwyr Mewn Addysg Yng Nghymru
Tra’ch bod yma:
Ar 6 Mehefin 2024 byddwn yn cofio 80 o flynyddoedd ers Glaniadau D Day, ac mae Cyfeillion Parc Belle Vue, mewn partneriaeth â CBSW, yn nodi’r achlysur pwysig yma drwy gynnal gwasanaeth cofio yn Eglwys San Silyn, gorymdaith drwy ganol y ddinas a gwasanaeth gosod torchau ger cofeb Cymdeithas Cyn-filwyr Normandi ym Modhyfryd.
Bydd y gwasanaeth yn dechrau am 12:30, gyda gorymdaith o’r eglwys i Fodhyfryd am 13:15. Hoffem gynnwys plant teuluoedd y lluoedd arfog a fydd yn bresennol yn y gwasanaeth.
Bydd cymdeithasau milwrol Wrecsam yn gorymdeithio gyda’u baneri i gofio am y rheiny a ymladdodd ar draethau Normandi.
Rydym ni’n chwilio am blant o deuluoedd y Lluoedd Arfog i gymryd rhan a dal un o’r deunaw baner. Y bwriad yw creu bwa gyda’r baneri a bod pawb yn mynd o dano wrth iddynt adael yr eglwys ar yr orymdaith.
Meddai’r Cyng.Beverley Parry Jones, Cefnogwr y Lluoedd Arfog: “Mae Wrecsam wastad wedi bod â chysylltiadau cryf â’r fyddin, felly mae’n bwysig ein bod ni’n cofio aberth milwyr y gorffennol a chydnabod aberth personél a theuluoedd y lluoedd arfog heddiw.”
Os hoffech chi gymryd rhan neu fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at AFCC@wrexham.gov.uk