Yn ddiweddar, cynhaliodd JCB Frecwast Busnes Rhwydwaith Arloesi Cynghrair Merswy a’r Ddyfrdwy (MDA), gyda chefnogaeth tîm busnes a buddsoddi Cyngor Wrecsam.
Nod y digwyddiadau brecwast yma yw dod â chwmnïau sy’n seiliedig ar wybodaeth ynghyd â phobl fyddai’n cefnogi eu twf.
Mae’r MDA yn trefnu’r digwyddiadau yma bob dau fis a’r lleoliad yn amrywio bob yn ail rhwng Cymru a Lloegr, a’r mis yma, daeth dros 70 o gwmnïau iddo.
Drwy gydol y bore, clywodd y grŵp gyflwyniadau difyr gan nifer o fusnesau – rhai bach a chanolig yn bennaf. Roedd gan bob busnes hefyd stondin i arddangos eu gwaith a rhwydweithio.
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adferiad Cyngor Wrecsam: “Roedd yn fore braf, llawn gwybodaeth yng nghwmni busnesau lleol a rhai o bob cwr o ranbarth yr MDA dros Sir y Fflint, Cilgwri a Swydd Gaer.
“Mae hon yn ffordd wych i gwmnïau gyfarfod, rhwydweithio a meithrin perthnasoedd hirdymor sy’n fuddiol iddynt.
“Hoffwn ddiolch i dîm busnes a buddsoddi Cyngor Wrecsam am drefnu, yr holl siaradwyr, y stondinau busnes a’r gwesteion…a diolch yn arbennig i Craig Weeks a’i dîm o JCB yn Wrecsam am gynnal y digwyddiad a darparu lluniaeth.”
Dywedodd Craig Weeks, cyfarwyddwr gweithrediadau yn JCB Transmissions: “Fel cwmni gweithgynhyrchu sydd ar flaen y gad yn fyd-eang ac sy’n rhoi pwyslais mawr ar arloesedd a chydweithio, roedden ni’n falch iawn o gynnal brecwast busnes yr MDA.
“Roedd y digwyddiad yma’n gyfle unigryw i arweinwyr diwydiant a busnesau bach a chanolig ddod ynghyd, rhannu safbwyntiau ac edrych ar lwybrau i dyfu a ffurfio partneriaethau. Yn JCB Transmissions, rydyn ni’n cydnabod pwysigrwydd creu cysylltiadau ystyrlon yn y gymuned fusnes, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at hwyluso trafodaethau difyr sy’n hwb i ddatblygiad ac arloesedd.
“Rydyn ni’n angerddol am gefnogi’r gymuned leol, addysg, elusennau a busnes i adael gwaddol o dwf a datblygiad ar gyfer pobl leol. Yn JCB Transmissions, rydyn ni’n canolbwyntio ar feithrin diwylliant i greu rhagoriaeth.”
Dylai unrhyw fusnesau sydd â diddordeb mewn digwyddiadau brecwast yn y dyfodol gysylltu â’r MDA am fanylion.