Mae’r ymateb wedi bod mor dda i ddatblygiad tai gofal ychwanegol newydd yn Wrecsam felly trefnwyd digwyddiadau diwrnod galw heibio ychwanegol i helpu pobl wybod mwy.
Rydym eisoes wedi cynnal digwyddiadau galw heibio ar gyfer Maes y Dderwen, y Cynllun Tai Gofal Ychwanegol ar Ffordd Grosvenor a ddatblygwyd mewn partneriaeth rhwng Cyngor Wrecsam, Llywodraeth Cymru a’r Grŵp Tai Pennaf.
Mae’r cynllun gofal ychwanegol Maes y Dderwen £10.5 miliwn yn darparu gofal preswyl amgen ac mae wedi’i ddylunio’n benodol i bobl leol 60 oed neu hŷn sy’n dymuno byw yn annibynnol mewn cartref eu hunain gyda’r tawelwch meddwl o fynediad 24 awr i ofal a chefnogaeth.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM EBOSTIAU WYTHNOSOL RŴAN.
Mae’r diddordeb yn y datblygiad wedi bod mor boblogaidd rydym wedi trefnu cyfres arall o ddigwyddiadau gwybodaeth galw heibio yn Amgueddfa Wrecsam, Stryt y Rhaglaw.
Y dyddiadau a drefnwyd ar gyfer y digwyddiad gwybodaeth yw:
- Dydd Llun, 16 Ebrill – 10am tan 4pm
- Dydd Sadwrn, 21 Ebrill 11am tan 2pm
- Dydd Llun, 23 Ebrill – 10am tan 4pm
- Dydd Llun, 30 Ebrill – 10am tan 4pm
Bydd lluniau, cynlluniau, ffilm fer, llyfrynnau a thaflenni ffeithiau ar Maes y Dderwen ar gael, a bydd cynrychiolydd o Grŵp Pennaf hefyd wrth law i ateb cwestiynau gan unrhyw un â diddordeb.
“Diddordeb yn datblygu”
Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion yng Nghyngor Wrecsam: “Mae diddordeb yn datblygu ym Maes y Dderwen ac rydym yn falch iawn o ddweud bod y newyddion da am y datblygiad eisoes wedi denu adborth cadarnhaol iawn – ond rydym yn gwybod bod rhai aelodau o’r cyhoedd yn ystyried Gofal Ychwanegol fel dewis ar gyfer tŷ yn y dyfodol ac roeddem eisiau cynnal mwy o ddigwyddiadau gwybodaeth i sicrhau eu bod yn cael yr holl wybodaeth maent ei hangen.”
Ychwanegodd Steve Robinson, Rheolwr Gwasanaethau Gofal Ychwanegol gyda Pennaf: “Mae Maes y Dderwen wedi’i ddylunio’n benodol i alluogi pobl i fyw’n dda, yn eu cartref eu hunain, gyda mynediad i gefnogaeth sy’n gallu addasu wrth i’w hanghenion newid.
Mae’r cynllun yn ddewis ardderchog i’r sawl ag ystod eang o anghenion cefnogaeth, o’r sawl sy’n edrych am ychydig o gymorth ychwanegol i’r sawl â gofynion mwy cymhleth.”
Gall unrhyw un â diddordeb alw i mewn yn un o’r sesiynau neu gallant gysylltu â ni drwy ffonio 0800 183 5757 neu anfon e-bost i enquiries@tyglas.co.uk
Neu, gallwch ymweld â gwefan Maes y Dderwen yma i wybod mwy.
Mae Maes y Dderwen wedi’i ariannu gyda chefnogaeth Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru a chyllid Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid a sicrhawyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, hefyd arian preifat a drefnwyd gan Grŵp Tai Pennaf.
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am ebostiau wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU