Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mwy o gartrefi wedi eu trawsnewid gan ein prosiect moderneiddio…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Mwy o gartrefi wedi eu trawsnewid gan ein prosiect moderneiddio…
Pobl a lleY cyngor

Mwy o gartrefi wedi eu trawsnewid gan ein prosiect moderneiddio…

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 26, 2017 3:46 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Mwy o gartrefi wedi eu trawsnewid gan ein prosiect moderneiddio...
RHANNU

Mae tenantiaid y Cyngor wedi croesawu gwaith i wella eu cartrefi.

Cynnwys
  • Diwallu anghenion tenantiaid
  • Mae fy nhŷ yn well nag a fu erioed
  • Blwyddyn record ar gyfer gwaith gwella tai

Cafodd dai ym Mhen y Bont yn Nhrefor ystafelloedd ymolchi newydd wedi’u haddasu fel rhan o brosiect moderneiddio tai uchelgeisiol.

Mae Pen y Bont yn cynnwys 15 byngalo sy’n rhan o gynllun tai gwarchod Cyngor Wrecsam. Mae modd i denantiaid fyw’n annibynnol ond elwa hefyd o wasanaeth warden a gwasanaeth larwm 24 awr.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Diwallu anghenion tenantiaid

Mae ystafelloedd ymolchi wedi’u haddasu yn cael eu hadeiladu gyda nodweddion arbennig i ddiwallu anghenion y tenantiaid sy’n byw yma. Mae hyn yn cynnwys cawodydd gwastad â’r llawr a chanllawiau ychwanegol.

Cafodd yr ystafelloedd ymolchi ym Mhen y Bont eu gosod gan Novus Property Solutions, contractwr sy’n gweithio mewn partneriaeth â’r Cyngor.

Cafodd y tai welliannau blaenorol eraill fel rhan o’r prosiect moderneiddio. Mae’r rhain yn cynnwys ceginau newydd, systemau gwres canolog newydd, ail-wifrio trydanol a thoeau newydd.

Mae’r gwaith wedi’i wneud i sicrhau bod y Cyngor yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth Cymru.

Mwy o gartrefi wedi eu trawsnewid gan ein prosiect moderneiddio...

Mae fy nhŷ yn well nag a fu erioed

Mae Mr Charlie Evans wedi bod yn byw ym Mhen y Bont ers 15 mlynedd. Dywedodd: “Dw i’n fodlon iawn gyda’r ystafell ymolchi newydd. Mae’n lân, yn fodern ac yn hawdd i’w defnyddio, ac wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’m cartref. Mae’r gwaith o osod ystafell ymolchi newydd yn eitha’ peth, ond roedd y contractwyr a staff y Cyngor wedi gwneud yn siŵr eu bod yn gofalu amdanon ni. Roedd y staff yn arbennig o dda drwy gydol y gwaith. Roeddent yn gyfeillgar ac yn barod eu cymwynas.

Mae’r tŷ wedi cael ei weddnewid ers i mi symud i mewn. Rydw i wedi cael cegin, system gwres canolog a tho newydd. Mae’n well rŵan nag erioed.”

Dywedodd Aelod Lleol Llangollen Wledig, y Cynghorydd Rondo Roberts: “Rydw i’n falch iawn bod cartrefi ein tenantiaid yn cael eu moderneiddio ac mae’n dda clywed bod y gwaith yn cael ei wneud i ddiwallu anghenion y sawl sy’n byw mewn tai gwarchod.

Mae’n bwysig bod pob un o’n tai cymdeithasol yn cael eu gwella i safon uchel a hoffwn ddiolch i’r Cyngor a Novus am wneud y gwaith i safon mor dda.”

Blwyddyn record ar gyfer gwaith gwella tai

Mae tai’r Cyngor ar draws y fwrdeistref sirol yn derbyn gwaith gwella fel rhan o’r prosiect i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru.

Mae dros £56.4 miliwn yn cael ei wario ar y gwaith yn 2017/18. Mae hyn yn cynnwys grant ‘Lwfans Atgyweiriadau Mawr’ o £7.5 miliwn sy’n cael ei ddyfarnu gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol er mwyn helpu i gyrraedd y safon newydd.

Mae’r gwaith yn cynnwys ceginau newydd, ystafelloedd ymolchi newydd, systemau gwres canolog, ail-doi a gwaith i wella’r llwybrau a’r ffensys tu allan hefyd.

Meddai’r Aelod Arweiniol Tai, y Cynghorydd David Griffiths: “Rydym wedi cymryd camau mawr gyda’n prosiect moderneiddio tai dros y blynyddoedd diwethaf, gan fuddsoddi’r symiau mwyaf erioed o bres a gwneud gwaith gwella enfawr ar filoedd o dai.

Rydym yn rheoli dros 11,200 o dai Cyngor, felly mae prosiect ar y raddfa hon yn gallu cyflwyno sawl her. Er hyn, rydw i’n falch iawn o weld bod y rhan fwyaf o’r gwaith nawr wedi cael ei gwblhau a bod ein tenantiaid yn gallu byw mewn cartrefi modern, deniadol ac yn barod at y dyfodol.”

Cewch ragor o wybodaeth am Safon Ansawdd Tai Cymru ar ein gwefan.

Gallwch gael newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam gyda Fy Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Seiren o’r Ail Ryfel Byd yn Canu Unwaith Eto Seiren o’r Ail Ryfel Byd yn Canu Unwaith Eto
Erthygl nesaf Remembrance Sunday Dydd y Cadoediad a Sul y Cofio yn Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lle Y cyngor
Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Pobl a lle

Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Medi 1, 2026
Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English