Mae’r Nadolig ar fin dechrau yn Llyfrgell Wrecsam wrth iddynt agor eu blwch llythyrau i’ch llythyrau at Siôn Corn.
Felly, os ydy eich plentyn yn meddwl ysgrifennu llythyr at Siôn Corn eleni, beth am ei anfon o Lyfrgell Wrecsam? Unwaith eto eleni, byddant yn casglu eich llythyrau Nadolig ac yn eu hanfon at ein hoff ŵr barfog a siriol. Yn syml, casglwch eich papur ysgrifennu o ddesg y llyfrgell, lluniwch eich rhestr, postiwch eich llythyr at Sion Corn yn y blwch postio Nadoligaidd ac fe fyddwch yn derbyn llythyr yn ôl gan y dyn ei hun! Bydd ymatebion ar gael o fewn wythnos, a byddant ar gael i’w casglu o’r arddangosfa Nadolig. Mae’n agored i bob plentyn, hen ac ifanc rhwng 26 Tachwedd – 21 Rhagfyr.
Gallwch hefyd ymuno mewn Prynhawn Crefftau Nadolig er budd Mind, yr elusen iechyd meddwl. Galwch yn y llyfrgell ar 1 Rhagfyr, 1-4pm a mwynhewch brynhawn o grefftau Nadoligaidd, yn gwneud addurniadau a chardiau Nadolig. Bydd te, coffi a chacennau hefyd ar gael, a bydd yr holl elw’n mynd tuag at Mind. Felly, beth am ddod draw i helpu i godi arian tuag at yr elusen bwysig hon, gan roi hwb i’ch lles meddyliol chi wrth fwynhau creu’r crefftau Sesiwn galw heibio, nid oes angen archebu lle. Croeso i bob oedran.
Yn olaf, oeddech chi’n gwybod fod Llyfrgell Wrecsam hefyd wedi ymestyn ei oriau agor – felly hyd yn oed mwy o amser i feddwl am beth i’w roi ar y rhestr i Siôn Corn!
Dyma’r oriau agor newydd:
Dydd Llun – Dydd Gwener 9am-6pm
Dydd Sadwrn 9am-4pm
Dydd Sul – Ynghau
DWI ISIO MYNEGI FY MARN
DOES DIM OTS GEN I