Erthygl wadd gan Bartneriaeth Rheilffordd Caer – Amwythig
Hysbyswyd y Bartneriaeth Reilffordd y byddai cynlluniau Trafnidiaeth Cymru i ddiwygio’r amserlen ar gyfer Llinell Caer i Amwythig yn arwain at ostyngiad yn y nifer o drenau yn galw yn y gorsafoedd ar y llwybr hwnnw. Mae’r newidiadau arfaethedig i amserlen trenau Caer – Wrecsam – Yr Amwythig o fis Rhagfyr 2019 gan Trafnidiaeth Cymru wedi cael eu condemnio’n annerbyniol.
OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…
Er gwaethaf unrhyw ymgynghoriad, mae’r gwasanaeth bob awr yn cael ei ostwng i letya cyflwyniad y gwasanaeth cario locomotif rhwng Caerdydd a Chaergybi. Mae’r canlyniad yn golygu na fydd y 0925 o’r Amwythig i Gaer yn weithredol a bydd rhaid i deithwyr aros hyd at ddwy awr am drên i’r gogledd. Mae’r gwasanaeth 0925 yn benodol o bwysig, gan mai dyma’r trên cyntaf tu allan i oriau brig sy’n rhoi mynediad i docynnau rhatach i siwrneiau hirach. Wrth ddychwelyd, ni fydd y gwasanaeth 1420 i gyfeiriad y de o Gaer yn stopio ymhob gorsaf. Eto, bydd rhaid i deithwyr aros am y gwasanaeth canlynol, gydag arhosiad o hyd at ddwy awr.
Dywedodd y Cynghorydd David A, Bithell, aelod arweiniol Lle – Yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a chadeirydd Partneriaeth Rheilffordd Caer-Amwythig, ‘Pan ddysgom ni am y cynnig hwn, ysgrifennom ni’n syth at y gweinidog Ken Skates am sicrwydd y byddai gwasanaeth sylfaenol bob awr yn cael ei gynnal i’n gorsafoedd i gyd. Mae’r fasnachfraint newydd hon, a reolir gan Trafnidiaeth Cymru yn llai na 12 mis oed a cawsom addewid o lefelau gwasanaeth gwell, ac eto mae disgwyl i ni dderbyn patrwm gostyngol i’r gwasanaeth o fis Rhagfyr’. Ychwanegodd, ‘Darparwyd y gwasanaeth bob awr fel rhan o fasnachfraint Trenau Arriva Cymru, a fe’i gefnogwyd yn dda gan deithwyr. Dyma wasanaeth sylfaenol nid ellir ei golli, ac rydym wedi synnu y gallai’r fath gynnig gael ei ystyried.
Mae’r patrwm gwasanaeth arfaethedig fel y ganlyn:
Tua’r Gogledd
GWASANAETH CYFLYM NEWYDD – Gadael Caerdydd 07.02; Yr Amwythig 09.01; Wrecsam 09.30; Caer 09.52; cyrraedd Caergybi 11.17.
GWASANAETH I’W DDIDDYMU – Gadael Caerdydd 07.21; Yr Amwythig 09.25; Gobowen 09.43; Y Waun 09.48; Rhiwabon 09.55; Wrecsam 10.01; Caer 10.20; Caergybi cyrraedd 12.23.
Dim ymadawiad o’r Amwythig ar gyfer gorsafoedd trenau rhwng 08.25 a 10.25.
Tua’r De
GWASANAETH CYFLYM NEWYDD – Gadael Caergybi 11.34; Caer 13.16; Wrecsam 13.31; Rhiwabon 13.19; Y Waun 13.46; Gobowen 13.51; Yr Amwythig 14.17; cyrraedd Caerdydd 16.15.
Ni fydd y gwasanaeth presennol i Birmingham International sy’n gadael Caer am 13.30 ac yn stopio ymhob gorsaf i’r Amwythig yn newid.
GWASANAETH I’W DYNNU – Gadael Caergybi 12.32; Caer 14.20; Wrecsam 14.34; Rhiwabon 14.41; Y Waun 14.48; Gobowen 14.53; Yr Amwythig 15.15; cyrraedd Caerdydd 17.16 (parhau i Faesteg).
Dim ymadawiad o Gaer i orsafoedd rhwng 13.30 a 1536. Y ddau drên i Birmingham International. Dim gwasanaeth drwodd i Gaerdydd nes 1621 o Gaer.
Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.
DWEUD EICH DWEUD