Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Net World Sports i Noddi Brecwast Busnes Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy nesaf
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Net World Sports i Noddi Brecwast Busnes Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy nesaf
Y cyngorBusnes ac addysg

Net World Sports i Noddi Brecwast Busnes Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy nesaf

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 13, 2023 10:05 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Mersey Dee Alliance
RHANNU

Bydd Brecwast Busnes Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy nesaf yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 27 Mehefin rhwng 8.30am a 10.00am (cofrestru o 8am) yn Net World Sports, sydd yn noddi’r digwyddiad yn garedig iawn yn Lôn y Bryn, Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam, LL13 9UT 

Cynnwys
  • Beth yw Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy?
  • Rhwydwaith Arloesi MDA
  • Beth yw nodau ac amcanion y rhwydwaith
  • Adborth gan fynychwyr

I archebu eich lle am ddim, e-bostiwch Business@wrexham.gov.uk erbyn 20 Mehefin 2023.

Os hoffai unrhyw fusnes wneud cais neu gael stondin i arddangos eu hunain, e-bostiwch Business@wrexham.gov.uk

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio: “Mae Brecwast Busnes yn ffordd wych o rwydweithio gydag eraill ar draws y rhanbarth, gyda chyfres o gyflwyniadau i ddilyn gan fusnesau eraill.

“Maen nhw’n help yn benodol i fentrau busnesau bach a chanolig ac maent yn annog twf ac arloesedd er mwyn sicrhau llwyddiant.”

Beth yw Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy?

Mae Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy yn bartneriaeth twf economaidd strategol trawsffiniol, yn cynnwys Cilgwri, Gorllewin Swydd Gaer a Chaer, Sir y Fflint a Wrecsam.    Yn ogystal â’r pedwar Awdurdod Lleol, mae Coleg Cambria, Awdurdod Cyfun Dinas-Ranbarth Lerpwl, Trafnidiaeth Cymru, Llywodraeth Cymru, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam a Phrifysgol Caer yn aelodau partner hefyd.

Rhwydwaith Arloesi MDA

Yn dilyn y dirwasgiad yn 2010, roedd busnesau ar y ddwy ochr y ffin yn wynebu heriau economaidd a masnachol, felly er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn lansiodd y Cynghrair Merswy a’r Ddyfrdwy y Rhwydwaith Arloesi – cyfres o frecwast busnes bob yn ail fis yn cael eu cynnal chwe gwaith y flwyddyn bob yn ail rhwng Cymru a Lloegr.    Bwriad y rhwydwaith yw dod â chwmnïau â gwybodaeth a’r rheiny sydd yn cefnogi twf busnesau o’r fath, megis ymgynghorwyr, buddsoddwyr, ymgynghorwyr cyfreithiol, arbenigwyr diwydiant a phrifysgol, asiantaethau llywodraeth ayyb i annog twf economaidd cynaliadwy.  Mae’r rhwydwaith yn helpu i wella perfformiad busnesau, drwy annog busnesau i siarad gyda’i gilydd, datblygu cysylltiadau a chyswllt newydd, a gwneud busnesau bach a chanolig yn ymwybodol o fentrau rhanbarthol a chenedlaethol a chyfleoedd.  

Mae’r digwyddiadau awr o hyd yn cael eu cynnal am 8.30am tan 9.30am mewn lleoliadau trawsffiniol amrywiol.  Mae fformat y digwyddiad yn anffurfiol iawn gydag oddeutu 40 munud ar gyfer rhwydweithio ac adran stondin/siaradwr cyflym am 20 munud gyda hyd at 10 siaradwr. Mae busnesau o fewn y rhanbarth yn cael eu dewis i siarad yn y digwyddiad sydd yn galluogi cwmnïau i arddangos eu busnesau, amlygu cynnyrch/ gwasanaethau newydd a darparu llwyfan i hyrwyddo mentrau rhanbarthol a chenedlaethol.   Mae dros 150 o gyfranogwyr yn mynychu pob digwyddiad.

Mae lleoedd yn cael eu cynnig i fusnesau am ddim gyda nawdd yn cael ei geisio ar gyfer pob digwyddiad i gyflenwi costau lluniaeth a hurio’r lleoliad. Mae mannau gwag arddangos ar gael ar gyfer nifer benodol o gyfranogwyr i arddangos eu busnesau, ac mae’n hanfodol i archebu lle yn fuan gan fod digwyddiadau yn cael eu llenwi o fewn oriau.

Beth yw nodau ac amcanion y rhwydwaith

Mae Rhwydwaith Arloesi Cynghrair Merswy a’r Ddyfrdwy yn ceisio cefnogi busnesau gyda gwybodaeth, busnesau bach a chanolig yn bennaf i:

  • gwella eu perfformiad mewn twf busnes ac arloesi
  • helpu busnesau wynebu heriau economaidd a masnachol a pharatoi ar gyfer twf parhaus
  • mynediad at rwydweithiau arloesi rhanbarthol a chenedlaethol perthnasol megis Rhwydweithiau Trosglwyddo Gwybodaeth sy’n cael ei redeg gan y Bwrdd Strategaeth Technoleg a’r partneriaid ac aelodau

Adborth gan fynychwyr

“Digwyddiad rhwydweithio gorau yn y rhanbarth. Rwyf wedi gwneud llawer o gysylltiadau ac wedi cael gwaith a rhoi busnes oherwydd y digwyddiadau hyn.”

“Mae’n wych cael cyfarfod cleientiaid posibl a chadw cysylltiadau gweithredol gyda phartneriaid cydweithio busnes cyfredol.”

“Rwy’n teimlo ei fod yn ein cadw’n ddiweddar gyda’r hyn sy’n mynd ymlaen yn yr ardal ac yn rhoi persbectif gwahanol gyda’r amrywiaeth o aelodau sy’n mynychu.

“Rhwydweithio a dal i fyny gyda chydweithwyr.”

“Mae’n wych i rwydweithio a dysgu am fusnesau bach a chanolig yn yr ardal.”

“Codi ymwybyddiaeth o’n busnes, gwneud cyswllt o ansawdd dda, ac yn denu cleientiaid posibl,” “Yn wych i gyfarfod cyflenwyr, creu rhwydwaith a datblygu arweinwyr busnes newydd.”

Rhannu
Erthygl flaenorol National Blood Donor Week Mam i efeilliaid yn annog mwy o bobl i ddod yn rhoddwyr gwaed sy’n achub bywydau ar gyfer yr Wythnos Genedlaethol Rhoddwyr Gwaed
Erthygl nesaf Waste Collections Bydd ein casgliadau gwastraff yn dechrau am 6am yfory (13.06.23)

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig
Y cyngor

Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig

Awst 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English