Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Nodyn atgoffa: mis nesaf bydd casgliadau gwastraff gardd yn dychwelyd yn ôl i gasgliadau bob pythefnos
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Nodyn atgoffa: mis nesaf bydd casgliadau gwastraff gardd yn dychwelyd yn ôl i gasgliadau bob pythefnos
Y cyngor

Nodyn atgoffa: mis nesaf bydd casgliadau gwastraff gardd yn dychwelyd yn ôl i gasgliadau bob pythefnos

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 16, 2021 12:25 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
green bin
RHANNU

Hoffwn atgoffa preswylwyr sydd wedi tanysgrifio i’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd y byddwn yn casglu eich bin(iau) gwyrdd bob pythefnos eto o fis nesaf (Mawrth).

Cynnwys
  • Heb gofrestru ond yn dymuno gwneud hynny rŵan?
  • Derbyn rhybudd yn eich atgoffa i roi eich bin allan
  • Gwneud yn siŵr eich bod yn derbyn y rhybuddion cywir

Meddai’r Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym wedi bod yn gwneud casgliadau gwastraff gardd ar sail fisol ostyngol ar draws mis Rhagfyr, Ionawr a Chwefror i ryddhau staff i’n helpu ni ddelio gyda phroblemau problematig oherwydd y gaeaf fel graeanu ffyrdd neu waith cynnal a chadw cyffredinol.

“Wrth i ni symud at y gwanwyn – a gobeithio tuag at dywydd gwell – mae preswylwyr yn fwy tebygol o wneud defnydd o’u bin(iau) gwyrdd, felly bydd y casgliadau hyn yn dychwelyd i bob pythefnos o fis Mawrth ymlaen.”

Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru

Heb gofrestru ond yn dymuno gwneud hynny rŵan?

Os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff gardd yn flaenorol, ond yn dymuno i ni gasglu eich bin(iau) gwyrdd dros y gwanwyn a’r haf, nid yw’n rhy hwyr i gofrestru.

Mae’n costio £25 y bin, gyda’n gwasanaeth presennol yn rhedeg tan Awst 31, 2021, fel eich bod yn dal i allu cael gwerth 6 mis o gasgliadau os ydych yn cofrestru’n fuan.

Am y ffordd fwyaf sydyn a chyfleus i gofrestru ewch i www.wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd. Fel arall, gallwch ffonio 01978 298989 er mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi aros am ateb.

Derbyn rhybudd yn eich atgoffa i roi eich bin allan

Gallwch gadw llygad ar bryd i roi eich biniau gwastraff gardd allan drwy gofrestru ar gyfer ein hysbysiadau casglu sbwriel. Byddwch yn derbyn rhybudd dros e-bost ddiwrnod cyn y casgliad i’ch atgoffa chi. Os ydych eisoes yn derbyn yr e-byst hyn, nid oes arnoch chi angen newid dim byd.

Fel arall, gallwch lawrlwytho ac argraffu’r calendrau diweddaraf.

Gallwch hefyd weld gwybodaeth ynghylch eich casgliadau bin ar Fy Nghyfrif. Mae cofrestru yn syml iawn, a’r oll sydd arnoch chi angen ei wneud yw gwasgu Gwasanaethau > Gwastraff ac Ailgylchu > Gwirio’ch diwrnod bin.

Gwneud yn siŵr eich bod yn derbyn y rhybuddion cywir

Ydi’r person sydd yn rhoi’r biniau allan ar gyfer eich tŷ yn derbyn y rhybuddion cywir gennym ni? Os yw’r cyfeiriad e-bost wedi newid ers cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff gardd, yr oll rydych angen ei wneud yw llenwi ein ffurflen gwirio’ch diwrnod bin.

Yr oll ydych angen ei gynnwys yw eich cod post, cyfeiriad ag e-bost a phwyso cyflwyno, drwy wneud hynny bydd eich system atgoffa ar e-bost yn diweddaru yn awtomatig a sicrhau eich bod yn derbyn y nodyn atgoffa.

???? Mynnwch y ffeithiau…darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf am raglen frechu Covid-19 GIG Cymru ar gyfer Wrecsam a Gogledd Cymru ????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/ystadegau-brechu-lleol-ar-gyfer-gogledd-cymru1/”]CANFOD Y FFEITHIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Evening Economy Ffi Trwydded Balmant wedi’i hepgor i helpu busnesau lleol
Erthygl nesaf Bwletin Twristiaeth Newydd i arddangos busnesau lletygarwch Bwletin Twristiaeth Newydd i arddangos busnesau lletygarwch

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)
Datgarboneiddio Wrecsam Fideo
Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy
Y cyngor

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy

Medi 15, 2026
Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi
Y cyngor

Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
Guildhall ceremony room
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd

Medi 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English