Fel rhan o raglen Ewch Allan a Bod yn Egnïol (GOGA) mae modd i ferched Wrecsam gymryd rhan mewn sesiynau chwaraeon rhad ac am ddim mewn canolfannau hamdden a gweithgareddau lleol. Mae’r sesiynau yn dechrau ddydd Llun 22 Ionawr ac yn cael eu cynnal am 10 wythnos.
Mae’r rhaglen yn cael ei hariannu gan Spirit of 2012, sef elusen etifeddiaeth Llundain 2012. Sefydlwyd y rhaglen gan y Gronfa Loteri Fawr i ariannu prosiectau cymunedol yn y Deyrnas Unedig sy’n dod â phobl ynghyd.
Yn Stadiwm Queensway bydd modd i ferched fynychu sesiynau campfa rhwng 6.30 ac 8.30, sy’n cynnwys sesiwn gyflwyno am ddim a chyfle i gymryd rhan yn y sesiynau O Gerdded i Redeg 0-5k rhwng 7.30 ac 8.30. Bydd yn rhaid i chi archebu lle ymlaen llaw drwy ffonio 01978 355826.
Mae Canolfan Gwyn Evans, Gwersyllt yn cynnig sesiynau campfa rhwng 7.00 ac 8.00 a sesiynau nofio i ferched yn unig rhwng 8.00 a 9,00. Gallwch gysylltu â’r ganolfan ar 01978 269540.
Mae’r Byd Dŵr yn cynnig sesiynau campfa rhwng 6.30 ac 8.30 a sesiynau nofio i ferched yn unig rhwng 8.00 a 9,30. Gallwch gysylltu â’r Byd Dŵr ar 01978 297300.
Mae Canolfan Hamdden a Gweithgareddau’r Waun yn cynnig rhaglen ffitrwydd yn y dŵr rhwng 7.15 ac 8.00pm a Clubbercise rhwng 7.30 ac 8.15pm. Cysylltwch â’r ganolfan ar 01691 778666.
Mae’r holl weithgareddau ar gael i ferched yn Wrecsam, beth bynnag eu gallu corfforol.
Am ragor o wybodaeth neu i archebu lle, ffoniwch Terri Ritchie ar 01978 297362, @GOGAWrexham, neu terri.ritchie@wrexham.gov.uk.
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT