Tŷ Pawb fydd yr oriel gyntaf yn y DU i gynnal arddangosfa deithiol o un o sioeau celf enwocaf y byd yn ddiweddarach ym mis Chwefror.
Mae Cymru yn Fenis wedi’i gynllunio i fod yn blatfform ar gyfer celf weledol o Gymru yn un o arddangosfeydd celf enwocaf y byd, La Biennale, a gynhelir yn Fenis bob dwy flynedd.
Ar gyfer Biennale 2019, dewiswyd yr artist o Gaerdydd, Sean Edwards, fel artist Cymru yn Fenis.
Roedd ei arddangosfa unigol, Undo Things Done, i’w gweld yn eglwys Santa Maria Ausiliatrice yn Fenis trwy gydol 6 mis La Biennale.
“Munud tirnod” i Tŷ Pawb a Wrecsam
Felly sut mae Tŷ Pawb yn cymryd rhan?
Efallai eich bod wedi darllen y newyddion gwych yn gynharach eleni bod Tŷ Pawb wedi cael ei ddewis yn brif sefydliad Cymru yn Fenis eleni.
Mae hyn yn golygu y bydd arddangosfa Cymru yn Fenis 2019, Undo Things Done, yn dod i Tŷ Pawb ym mis Chwefror – y lleoliad cyntaf yn y DU ar daith yr arddangosfa.
Bydd hon yn foment bwysig i farchnadoedd, cyfleusterau celfyddydol a chymunedol Wrecsam sydd wedi ennill sawl gwobr.
Bydd yr arddangosfa’n cael ei hailgyflunio o gyd-destun penodol iawn y Santa Maria Ausiliatrice yn Fenis, lle gosodwyd gweithiau celf ar draws ystafelloedd cyd-gloi’r hen leiandy, sydd bellach yn ysgol a chanolfan gymunedol.
Mae Undo Things Done yn cymryd fel man cychwyn profiad Edwards o dyfu i fyny ar ystâd gyngor yng Nghaerdydd yn yr 1980au, gan ddal a chyfieithu’r hyn y mae’n ei alw’n amod o ‘beidio â disgwyl llawer’ i iaith weledol a rennir; un sy’n dwyn i gof ffordd o fyw sy’n gyfarwydd i nifer fawr o bobl.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB.
Undo Things Done – “ffordd o fyw oedd yn gyfarwydd iawn i nifer fawr o bobl”
Man cychwyn Undo Things Done yw profiad Edwards o dyfu i fyny ar stad o dai cyngor yng Nghaerdydd yn yr 1980au ac mae’n dal a throi’r hyn mae’n ei alw yn gyflwr o ‘beidio â disgwyl llawer’ yn iaith weledol a rennir; un sy’n dwyn i gof ffordd o fyw oedd yn gyfarwydd iawn i nifer fawr o bobl. Fel rhan o’r cyflwyniad yn Wrecsam, sy’n cynnwys cwiltiau Cymreig, printiau, cerfluniau a ffilm, mae’r artist yn ail wampio Refrain, 2019
Mae Refrain yn ddrama radio a ysgrifennwyd ar gyfer mam yr artist a gyd-gynhyrchwyd gan National Theatre Wales wedi’i pherfformio gan fam yr artist Lily Edwards.
Perfformiwyd y ddrama radio hon, a oedd yn ganolog i arddangosfa Fenis, yn fyw bob dydd yn ystod y Biennale, a ddarlledwyd o’i fflat yng Nghaerdydd i safle Cymru yn Fenis Wales in Venice 2019, sef Santa Maria Ausiliatrice, Castello. Mae Refrain yn plethu atgofion Lily Edwards o’i magwraeth mewn Cartref Plant Catholig yng Ngogledd Iwerddon a’i bywyd diweddarach yng Nghymru, gyda deunyddiau a ganfuwyd ac atgofion Sean Edwards o’i blentyndod.
Bydd Edwards yn addasu’r fersiwn a gomisiynwyd yn arbennig o Refrain a gynhyrchwyd gan John Norton a Martin Williams a ddarlledwyd ar BBC Radio 4 ar 17 Rhagfyr 2019.
Llifogydd yn Fenis
Fe dderbyniodd Undo Things Done, cyflwyniad Edwards yn Fenis, 25,000 o ymwelwyr yn ystod La Biennale di Venezia ond, yn ogystal â nifer o gyflwyniadau swyddogol eraill, fe ddaeth i ben yn gynnar o ganlyniad i lifogydd na welwyd ei debyg o’r blaen ar draws y ddinas. Fe effeithiodd y llifogydd ar waith dur a choed arwyddocaol, sef in parallel with the past i-iv 2019, sydd wedi ei dynnu o’r daith gyda gweithiau newydd wedi eu hychwanegu gan yr artist wrth i’r daith fynd yn ei blaen. Fel artist sydd bob amser yn addasu pob arddangosfa i’w chyd-destun newydd mae’r newidiadau hyn wedi eu hamsugno i broses weithio Edwards ei hun.
Lleoliad newydd wedi’i gyhoeddi ar gyfer y daith
Ar ôl bod yn Tŷ Pawb, Wrecsam, bydd yr arddangosfa yn symud ymlaen yn yr haf I’r Senedd, cartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Caerdydd, lleoliad newydd ar gyfer y daith gyda’r gwaith yn dychwelyd i’r ddinas lle cafodd ei lunio a lle mae Edwards yn byw.
Bydd y daith wedyn yn dod i ben ym mis Tachwedd 2020 ym mhartner prosiect Cymru yn Fenis Wales in Venice 2019 sef Bluecoat, Lerpwl, lle bydd Edwards yn creu dehongliad pellach o Undo Things Done gan ddefnyddio’r gofod mewn pedair oriel yn Bluecoat. Yn y cyflwyniad hwn fe fydd yr artist yn plethu hen weithiau a gweithiau newydd sy’n atseinio’r un synnwyr o hunangofiant ag yn ‘Undo Things Done’, gan gynnwys ei sianel fideo unigol Maelfa 2011 a ffilmiwyd mewn canolfan siopa yn arddull y 1970au ar ystâd Llanedern lle cafodd Edwards ei fagu.
Bydd corff newydd o weithiau emosiynol Edwards ar gyfer Undo Things Done – ffilm, cerfluniau, printiau a chwiltiau Cymreig – felly’n ehangu ac yn datblygu gyda’r daith. Yn nodedig am ei ymagwedd gerfluniol tuag at y cyffredin, mae Edwards yn aml yn cychwyn ag elfennau sy’n ymddangos yn ddigyswllt ar yr olwg gyntaf ond sydd wedi’u plethu â chysylltiadau hunangofiannol a diwylliannol.
Drwy brosesau ymchwilgar gan gynnwys amser a dreuliodd mewn archifau, amgueddfeydd a llyfrgelloedd lleol, mae’n dwyn ynghyd ddelweddau, storïau, dyfyniadau a chlipiau. Drwy brocio, ynysu, dethol a dwyn y cyfan ynghyd y daw eu hadleisiau gwleidyddol a ffurfiol i’r wyneb.
Wrecsam ‘yn chwifio’r faner dros gelf Cymru’
Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Gymunedau, Partneriaethau, Amddiffyn y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol, Clr Hugh Jones: “Mae wedi bod yn anrhydedd enfawr i Tŷ Pawb fod yn sefydliad arweiniol i Gymru yn Fenis 2019 ac rydym wrth ein bodd mai Wrecsam fydd y cyntaf cyrchfan ar daith 2020 o amgylch arddangosfa deimladwy ac ingol Sean Edwards.
“Mae Cymru yn Fenis yn chwarae rhan enfawr wrth chwifio’r faner ar gyfer celfyddydau Cymru yn un o arddangosfeydd celf enwocaf y Byd ac rydym yn falch iawn o ddod â rhywfaint o’r amlygrwydd rhyngwladol hwnnw i Wrecsam a Tŷ Pawb.”
Arbedwch y dyddiadau
- Mae Undo Things Done yn agor yn Tŷ Pawb ddydd Gwener Chwefror 18.
- Mae’r arddangosfa’n rhedeg tan ddydd Sul Ebrill 26. Yna mae’r arddangosfa’n teithio i’r Senedd, Caerdydd (Gorffennaf 26 – Medi 9, 2020) a Bluecoat, Lerpwl (Tachwedd 6, 2020 – Mawrth 14, 2021).
Cyflwynir Undo Things Done gan y curadur gwadd Marie-Anne McQuay ynghyd â’r sefydliad arweiniol Tŷ Pawb ac fe’i comisiynir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, gan nodi nawfed cyflwyniad Biennale Arte gan Gymru. National Theatre Wales yw cyd-gynhyrchwyr Refrain. Cefnogir y daith o amgylch Undo Things Done yn garedig gan Art Fund ac Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston.