Rydym yn gwybod bod gan bawb ddiddordeb yng Nghanol Tref Wrecsam.
Mae llawer o newyddion dros y flwyddyn ddiwethaf ar y gwahanol fusnesau yn mynd a dod, ac ymdrechion i glirio rhannau o’r dref a’r adferiad bwriadedig o hen adeiladau.
Er bod nifer o’r ymdrechion unigol hyn wedi’u cyflawni, mae aelodau o Gyngor Wrecsam wedi bod yn edrych hefyd ar y ffordd orau o gydlynu popeth.
DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.
Mae adroddiad sydd yn dilyn adolygiad o waith a gyflawnwyd gan y cyngor yng nghanol y dref, yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor Craffu Cyflogaeth, Busnes a Buddsoddiad dydd Mercher, 6 Rhagfyr.
Bwriad ar ôl yr adolygiad craffu yw bod y Cyngor yn datblygu strategaeth i rwymo’r holl waith sydd yn digwydd eisoes yng nghanol y dref.
Gallai hyn gyflenwi’r gwaith a gyflawnir gan y tîm Strydwedd i glirio a chynnal strydoedd a ffyrdd; y gefnogaeth a roddir i ddechrau busnesau gan Gefnogi Busnes; neu beth mae’r tîm Datblygu Economaidd wedi’i wneud i hwyluso tenantiaeth mewn eiddo gwag.
Mae’r adroddiad yn cyfeirio at gyfarfodydd a gynhelir ar lefel uwch fel rhan o’r dull cydlynol newydd, a hefyd yn amlinellu’r cynnydd yn erbyn Cynllun Meistr Canol y Dref, sef yr arf cynllunio ac adfywiad i ganol y dref.
Cynhelir y cyfarfod dydd Mercher, 6 Rhagfyr, a bydd yn cael ei ddarlledu’n fyw ar dudalen gweddarlledu’r Cyngor o 4pm ymlaen. Mae’r ddolen i’r Rhaglen a’r dudalen gweddarlledu yma.
“Llawer o ddidordeb yng Nghanol y Dref”
Dywedodd y Cynghorydd Rodney Skelland, Cadeirydd y Pwyllgor: “Rwy’n deall bod llawer o ddiddordeb yng Nghanol Dref Wrecsam ar hyn o bryd – gan y cyfryngau, busnesau, rhanddeiliaid ac aelodau o’r cyhoedd.
“O ganlyniad, byddwn yn argymell i unrhyw un sydd â diddordeb yng nghanol y dref i ddilyn y rhaglen gweddarlledu o’r cyfarfod – neu dewch eich hun – a gweld y math o waith sy’n digwydd i gydlynu adfywio ac iechyd parhaus canol y dref.
“Edrychaf ymlaen at yr hyn a bydd yn drafodaeth ddiddorol.”
Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.
DYWEDWCH EICH DWEUD GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU