Tra bo’r llywodraeth yn ceisio cyrraedd ei nod o gael un filiwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050, ceisir am syniadau newydd ac arloesol i annog mwy o bobl i siarad Cymraeg a hyrwyddo’r iaith.
Mae’n dod yn haws i ddechrau dysgu Cymraeg, gydag ystod o wasanaethau i ddechreuwyr i ddysgwyr awyddus ar gael.
Hefyd gall fod o fantais mawr i fusnesau , yn eu helpu i dyfu eu brand lleol ac ymgysylltu â chwsmeriaid Cymraeg eu hiaith.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Gan fod technoleg yn gwella a chyfleoedd a chyswllt drwy apiau a chyfryngau cymdeithasol yn gwella, bydd ffyrdd newydd yno i ddysgu Cymraeg – ac mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i gefnogi unrhyw un y gall helpu i ddatgloi eu potensial.
Mae’r llywodraeth yn chwilio am ffyrdd newydd i annog pobl i ddefnyddio Cymraeg yn eu bywydau bob dydd, gan gymryd mantais o dechnolegau newydd a gweithgareddau cymunedol.
Fel rhan o’r apêl am syniadau newydd, cynigir grantiau hyd at £20,000 i sefydliadau i helpu i roi’r syniadau a awgrymwyd ar waith.
Fel rhan o’r gwthiad Miliwn o Siaradwyr/One Million Speakers i gyrraedd un miliwn o bobl yng Nghymru yn siarad Cymraeg erbyn 2050, mae Llywodraeth Cymru yn awyddus o ganfod ffyrdd o ddefnyddio technolegau newydd i gael bobl i ddefnyddio a siarad Cymraeg.
Ceisir am brosiectau sy’n cynnig syniadau a gweithgareddau newydd, yn cymryd mantais o dechnolegau newydd neu’n cynnig ffyrdd gwreiddiol o annog a hyrwyddo’r iaith.
Mae ceisiadau yn agored i fusnesau, elusennau, neu grwpiau sector cyhoeddus – neu gonsortiwm o unrhyw un ohonynt.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau yw dydd Gwener, 22 Medi.
Mae rhagor o wybodaeth ar y cynllun grant ar gael yn www.gov.wales/welshlanguage, neu drwy e-bost i mewnflwch.grantiau@gov.wales.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae pobl yn defnyddio mwy o apiau ac adnoddau ar-lein i ddysgu Cymraeg – ond rwy’n siŵr bod mwy o syniadau ar sut i wneud y defnydd orau o dechnolegau newydd, sydd o fantais i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg.
“Dylai unrhyw un sydd â syniadau newydd ar sut y gall y llywodraeth berswadio pobl i ddysgu Cymraeg gysylltu â Llywodraeth Cymru a gwneud cais am y grant.”
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI