Mae’r dyddiad cau bron yma – gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael i ni wybod os yw cynlluniau Cyngor Wrecsam ar gyfer y dyfodol y rhai cywir.
Mae Cynllun y Cyngor 2023-28 yn nodi chwe maes y credwn sydd y meysydd mwyaf pwysig i’n helpu i gyflawni ein gweledigaeth, i gyfrannu at nodau lles Cymru a sicrhau bod pawb yn cael ei drin yn deg.
Ond ydych chi’n cytuno?
Ar ôl ei orffen, defnyddir y cynllun i gefnogi penderfyniadau ynghylch sut rydym yn dyrannu arian ac adnoddau eraill, felly mae’n bwysig eich bod yn dweud eich dweud.
Gallwch gael golwg ar Gynllun drafft y Cyngor a llenwi’r arolwg ar-lein yn www.yourvoicewrexham.com. Y dyddiad cau yw 14 Mawrth.
Os nad ydych chi’n gallu cwblhau’r arolwg ar-lein, mae copïau papur o’n harolwg yn Gymraeg a Saesneg ar gael a gellir eu dychwelyd i’r Ganolfan Les, Stryt Caer, Wrecsam, LL13 8BG; Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1AY, swyddfeydd stadau tai, llyfrgelloedd lleol, a Chanolfannau Clyd eraill ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.
Os ydych eisiau cysylltu â ni gallwch wneud hynny drwy:
E-bost: telluswhatyouthink@wrexham.gov.uk
Post: Dywedwch Eich Barn, Anecs y 3ydd Llawr, Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1AY
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD