Mewn cornel fechan ym Marchnad y Cigyddion yng nghanol y dref fe ddowch o hyd i Oriel Annibynnol Wrecsam (tWIG).
Mae’r oriel yn cael ei rhedeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr a’i nod yw arddangos a hyrwyddo doniau creadigol ac artistig.
Mae tWIG yn rhoi lle i artistiaid lleol arddangos a gwerthu eu gwaith, o amaturiaid sy’n arddangos am y tro cyntaf i artistiaid proffesiynol sefydledig. Mae hefyd yn cynnig amryw o ddosbarthiadau i rai sy’n dymuno gwella a mireinio eu sgiliau artistig.
Mae hefyd yn lle ardderchog yng nghanol y dref i ddod o hyd i anrhegion unigryw sydd wedi’u gwneud â llaw na ellir dod o hyd iddynt yn unrhyw le arall.
Pan agorodd am y tro cyntaf yn Wrecsam dros flwyddyn yn ôl roedd yr arwyddion cynnar yn dangos y byddai llawer o gefnogaeth gan wirfoddolwyr a oedd am helpu artistiaid i werthu eu nwyddau.
Ond dros yr wythnosau diwethaf mae’r oriel wedi cyhoeddi bod posibilrwydd y bydd raid iddi gau oherwydd diffyg cefnogaeth ariannol – felly mae’n apelio am fwy o wirfoddolwyr a doniau lleol i ddod ymlaen a chynnig eu help i sicrhau y gall aros ar agor a pharhau i gynnig lle i artistiaid a chrefftwyr.
Mae ganddo amrywiaeth o beintiadau ar hyn o bryd a gynhyrchir gan artistiaid lleol am brisiau rhesymol.
Yn ddiweddar daeth cwsmer i mewn i chwilio am anrheg pen-blwydd i’w mab 40 oed ac roedd wrth ei bodd pan ddaeth o hyd i lun haniaethol wedi’i beintio â llaw am £40.
“Roedd fy mab wrth ei fodd efo’r llun” meddai “Roedd yn unigryw ac yn lleol ac roedd yn ddiolchgar iawn i mi am anrheg mor ystyriol”
Mae eitemau eraill yn y siop yn cynnwys llyfrau a chyfres o glustlysau prydferth wedi’u gwneud â llaw – mae’n sicr yn werth edrych yno os ydych yn chwilio am anrheg ychydig yn wahanol.
Meddai Keith Evans, ymddiriedolwr a sefydlodd yr oriel; “Mae llawer o ymdrech wedi mynd i mewn i’r oriel ond mae’r gefnogaeth ddechreuol wedi pylu braidd ac rydym yn cael anhawster dod o hyd i eitemau creadigol ac artistig i’w gwerthu a hefyd gwirfoddolwyr i helpu i redeg yr oriel. Yn bwysicaf oll mae angen cyfeillion arnom i gyfrannu’n ariannol at gostau rhedeg yr oriel ac wrth gwrs cwsmeriaid i alw heibio i weld y pethau sydd ar gael i’w prynu.”
Felly os ydych yn chwilio am rywle i werthu’ch nwyddau, boed yn beintiad, gemwaith, nwyddau wedi’u ‘gwellgylchu’, celf a chrefft o unrhyw fath, tWIG yw’r lle i helpu.
Ac os oes gennych chi ychydig o oriau sbâr bob wythnos i helpu’r oriel, neu os oes gennych unrhyw sgiliau eraill y gallwn eu defnyddio, hoffai’r ymddiriedolwyr glywed gennych chi.
Gallwch gysylltu â nhw’n uniongyrchol neu edrych ar eu tudalen Facebook https://www.facebook.com/twigwxm/
Gallwch gyfrannu’n ariannol trwy fynd ar eu tudalen ariannu hefyd https://localgiving.org/charity/thewrexhamindependentgallery/https://localgiving.org/charity/thewrexhamindependentgallery/
Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.
DW I EISIAU CYNNIG FY MARN AR DAI