Anogir preswylwyr Wrecsam i sicrhau eu bod yn cael y cynnig gorau ar gyfer eu band eang ar ôl adroddiadau bod miliynau o aelwydydd ledled y DU yn colli’r cyfle i gael gostyngiad.
Dywedodd y rheoleiddiwr cenedlaethol Ofcom y gallai hyd at 4.2 miliwn o aelwydydd haneru eu biliau band eang trwy gael pecynnau gostyngedig arbennig sydd ar gael i gwsmeriaid sy’n cael Credyd Cynhwysol.
Gallai’r pecynnau hyn – a elwir weithiau yn ‘tariff cymdeithasol’ – helpu nifer o deuluoedd i wneud arbedion hanfodol ar amser pan fo nifer o bobl yn cael problemau ariannol.
Fodd bynnag, dim ond 55,000 o gartrefi yn y DU sydd wedi cymryd mantais o’r cyfraddau gostyngedig hyd yma – dim ond 1.2% o’r rhai sy’n gymwys.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Mae bob ceiniog yn cyfrif
Mae chwech o ddarparwyr band eang – BT, Community Fibre, G.Network, Hyperoptic, KCOM a Virgin Media O2 – yn cynnig y cynigion arbennig hyn ar hyn o bryd, am £10-£20 y mis ar gyfer cyflymder band eang yn amrywio o 10Mbit/s i 67Mbit/s.
Mae Ofcom yn galw ar ddarparwyr i wneud mwy i hyrwyddo’r cynigion hyn i gwsmeriaid, ac eisiau i fwy o gwmnïau gynnig tariff cymdeithasol.
Dywedodd y Cynghorydd David Kelly, aelod arweiniol Cyngor Wrecsam sy’n gyfrifol am gynhwysiant digidol: “Gyda chost byw yn cynyddu, mae’n bwysig bod teuluoedd yn cael y pris gorau am eu band eang.
“Mae’r tariff cymdeithasol gostyngedig mae rhai cyflenwyr yn eu cynnig wir yn gallu helpu teuluoedd i ostwng eu biliau misol, felly os ydych yn cael Credyd Cynhwysol mae wir yn werth edrych ar hyn.
“Cysylltwch â’ch cyflenwr i weld beth allant ei gynnig. Mae band eang yn rhywbeth rydym i gyd yn dibynnu arno am gymaint o bethau y dyddiau hyn, ac mae bob ceiniog yn cyfrif.”
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH