Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Osgowch ddirwy yng nghanol y ddinas
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Osgowch ddirwy yng nghanol y ddinas
ArallPobl a lleY cyngor

Osgowch ddirwy yng nghanol y ddinas

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 13, 2022 11:24 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Walking
RHANNU

Ydych chi’n gwybod y gwahaniaeth rhwng parth cerddwyr ac ardal lle na chaniateir unrhyw gerbydau?

Cynnwys
    • Parth Cerddwyr A:
    • Parth Cerddwyr B:
    • Parth Cerddwyr C:
    • Gwahardd pob cerbyd modur A:
    • Gwahardd pob cerbyd modur B:
    • Gwahardd pob cerbyd modur C:
  • Ydych chi’n credu eich bod yn gwybod beth yw llwytho a dadlwytho?
  • Beth sy’n digwydd os ydych yn torri’r rheolau?

Ydych chi’n gwybod beth a olygir gan ‘lwytho a dadlwytho’?

I sicrhau nad ydych yn cael dirwy yng nghanol y ddinas, darllenwch ymhellach i ddarganfod lle y gallwch yrru, a phryd.

Caiff parthau cerddwyr eu sefydlu i wneud canol y ddinas yn fwy diogel ac yn fwy apelgar i siopwyr. Hefyd mae gan ardaloedd i gerddwyr lygredd aer is, maent yn dawelach ac maent yn edrych yn well.

Yn Wrecsam, mae gennym ni dri pharth cerddwyr – yn dibynnu ar lle y maent ac anghenion y preswylwyr a’r busnesau sydd wedi eu lleoli ar y strydoedd.

Parth Cerddwyr A:

Dim mynediad i gerbydau modur ac eithrio ar gyfer bysiau/deiliaid bathodyn glas/llwytho a dadlwytho: cyn 11.30am ac ar ôl 5pm Dydd Llun i Ddydd Gwener, cyn 9.30am ac ar ôl 5pm Dydd Sadwrn a chyn 1pm ac ar ôl 5pm ar ddydd Sul.

Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.

Ble: Stryt y Lampint, Stryt y Syfwr, Stryt Henblas, Stryt yr Hôb, Stryt Caer.

Parth Cerddwyr B:

Dim mynediad i bob cerbyd modur ac eithrio ar gyfer llwytho a dadlwytho, cerbydau hacni a thacsis.

Ble: Ffordd Rhosddu (ger swyddfa gyrfaoedd y Fyddin) a Stryt Argyle

Parth Cerddwyr C:

Dim mynediad i bob cerbyd modur ac eithrio deiliaid bathodyn glas, llwytho a dadlwytho.

Ble: Stryt Siarl

Gorchmynion gwahardd cerbydau modur yn cyfyngu ar y mathau o gerbydau ac yn cyfyngu’r rhesymau y gallant gael mynediad i strydoedd penodol. Mae yna dair ardal yng nghanol y ddinas lle mae gwaharddiadau ar gerbydau modur mewn grym (mae’r rhain mewn grym bedair awr ar hugain y dydd saith diwrnod yr wythnos):

Gwahardd pob cerbyd modur A:

Ac eithrio bysiau, deiliaid bathodyn glas, llwytho a dadlwytho a mynediad i eglwys San Silyn.

Ble: Y Stryt Fawr, Stryt yr Eglwys ac Allt Uchaf y Dref

Gwahardd pob cerbyd modur B:

Ac eithrio ar gyfer mynediad, deiliaid bathodyn glas, llwytho a dadlwytho, bysiau a cherbydau hacni.

Ble: Stryt y Brenin (o gyffordd Stryt y Rhaglaw i gyffordd Stryt yr Arglwydd) a Stryt y Dug

Gwahardd pob cerbyd modur C:

Ble: Stryt Egerton (o Ffordd Rhosddu i’r gyffordd gyda Stryt yr Arglwydd)

Ydych chi’n credu eich bod yn gwybod beth yw llwytho a dadlwytho?

Llwytho neu ddadlwytho yw pan rydych yn symud nwyddau yn barhaus rhwng cerbyd ac eiddo. Hefyd fe ddylai’r nwyddau fod un ai yn drwm neu’n swmpus i roi’r hawl i dderbyn yr eithriad hwn.

I wybod mewn gwirionedd os ydych chi’n dadlwytho neu’n llwytho ac i beidio â bod mewn perygl o gael dirwy, dyma beth NAD YDYNT yn enghreifftiau o lwytho neu ddadlwytho!

  • Parcio lle mae eich cerbyd yn achosi rhwystr
  • Aros yn yr un lle pan ofynnwyd i chi symud gan un o swyddogion yr heddlu neu swyddog gorfodi traffig
  • Gadael eich cerbyd pan nad ydych yn llwytho neu’n dadlwytho – un ai i gael egwyl neu i bacio neu ddadbacio eitemau o fewn yr eiddo

Beth sy’n digwydd os ydych yn torri’r rheolau?

Os ydych yn parcio cerbyd mewn parth cerddwyr pan na ddylech wneud hynny, fe allwch dderbyn hysbysiad cosb o £70 gan swyddogion gorfodi traffig y Cyngor.

Gallai gyrru drwy barth cerddwyr pan na ddylech wneud hynny olygu dirwy gan yr heddlu.

Eich cyfrifoldeb chi fel gyrrwr y cerbyd yw gwirio’r arwyddion sydd mewn grym a gwybod rheolau’r ffordd.

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrecsam.gov.uk/services/cymorth-gyda-chostau-byw”] HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ruth Jones O gadeiriau oren, i bennau golau a Ruth Jones…
Erthygl nesaf Sesiynau cymorth costau byw yn cael eu cynnal mewn llyfrgelloedd drwy’r gaeaf Sesiynau cymorth costau byw yn cael eu cynnal mewn llyfrgelloedd drwy’r gaeaf

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw
Y cyngor
Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd
Busnes ac addysg Pobl a lle
Medi 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

sign for site
Y cyngor

Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol

Medi 22, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell

Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Pobl a lle

Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach

Medi 22, 2026
Street lighting
Arall

Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English