Mae gofalwyr, a’r rheiny y maen nhw’n gofalu amdanynt, yn aml yn poeni am y dyfodol, fodd bynnag mae yna lawer heb gymryd y cam gymharol syml o wneud Artwneiaeth Arhosol.
Mae Artwneiaeth Arhosol yn hanfodol ac yn rhoi’r awdurdod i’r gofalwr weithredu er lles gorau’r person y maen nhw’n ei ofalu amdano os ydyn nhw’n colli’r gallu i wneud penderfyniadau dros eu hunain.
Mae peidio â chael Artwneiaeth Arhosol yn ei le yn gallu gohirio’r gofynion gofal sydd ei angen ar berson ac achosi straen ychwanegol a baich ariannol i ofalwr di-dâl sydd yn teimlo’r straen a’r poeni yn barod.
Meddai un gofalwr yn siarad am eu profiad: “Dylai’r Artwneiaeth Arhosol fod yn flaenoriaeth ar y dechrau un. Heb Artwneiaeth Arhosol ni allwch wneud unrhyw beth. Dylai pawb gael eu hysbysu am y ddau fath o Artwneiaeth Arhosol, ariannol ac iechyd, o’u pen-blwydd yn 40 oed. Roedd hi’n rhy hwyr i gael artwneiaeth erbyn i’r diagnosis gael ei roi i dad, a dyma hynny’n achosi problemau a chaledi ariannol. Ni fu’n bosib i ni gael mynediad i’w gyfrif cynilo pan oedd angen ramp i fynd allan o’r tŷ, a bu’n rhaid i ni ddefnyddio cerdyn credyd ar gyfer y costau a oedd, wrth reswm, yn costio mwy.”
I wneud yn siŵr fod gofalwyr di-dâl yn Wrecsam yn gallu cael yr help sydd ei angen arnynt mae GOGDdC wedi ymuno â Celtic Law Ltd, i gynnig gweithdai Artwneiaeth Arhosol ac mewn rhai achosion, mynediad at gymorth ariannol gyda’r ffioedd cysylltiedig. Edrychwch ar eu tudalen digwyddiadau ar gyfer unrhyw gyrsiau Artwneiaeth Arhosol sydd ar y gweill neu cysylltwch â GOGDdC am fwy o wybodaeth ar enquiries@newcis.org.uk.
Wedi gweld twll yn y ffordd? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.