Mae clwb chwaraeon lleol wedi cael gwneud gwaith ailwampio gan gontractwr y Cyngor.
Gosododd Mitie, contractwr sydd wedi bod yn gwneud gwaith gwella tai yn ardal Cefn, gegin newydd sbon yng Nghlwb Bowlio Plas Kynaston yn Cefn Mawr.
Gwnaethpwyd y gwaith am ddim fel rhan o gynllun Buddion Cymunedol.
Mae gofyn i gontractwyr sy’n gwneud gwaith i wella tai’r Cyngor sefydlu cynlluniau Buddion Cymunedol sy’n helpu pobl leol a’r economi.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
“Bydd hyn yn ein helpu i gael mwy o bobl i mewn i’r gêm”
Meddai aelod o’r Clwb Bowlio a thenant y Cyngor, Joyce Evans: “Mae hwn yn glwb chwaraeon lleol poblogaidd ac mae’r tŷ clwb yn gyfleuster a ddefnyddir gan lawer. Ond, tan rŵan, dim ond cyfleusterau cyfyngedig oedd gennym i ddarparu lluniaeth. Doedd dim llawer mwy na bwrdd ac offer gwneud paned sylfaenol iawn.
“Bydd y gegin newydd yn gwneud byd o wahaniaeth. Byddwn yn gallu darparu bwyd go iawn a bydd gennym lawer mwy o le i baratoi bwyd. Rydym bob amser yn ceisio cynnal mwy o ddigwyddiadau yma ac annog pobl i chwarae’r gêm felly bydd y gegin newydd yn gymorth mawr i ni.
“Hoffem ddiolch i bawb a drefnodd ac a wnaeth y gwaith. Rydym yn gobeithio y gallwn ddefnyddio hwn i hyrwyddo’r clwb i newydd-ddyfodiaid. Dim ond £1.50 yw gêm a gallwn ni ddarparu’r offer i gyd.”
Cofnodi buddsoddiad mewn gwaith gwella tai
Mae Mitie wedi bod yn gwneud gwaith inswleiddio Waliau Allanol a gosod toeau newydd ar dai cyngor yn ardal Cefn yn ddiweddar.
Mae’r gwaith yn rhan o brosiect mawr y Cyngor i sicrhau ein bod yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth Cymru erbyn 2020.
Mae buddsoddiad £56.4m, y swm mwyaf erioed, yn y gwaith gwella yn 2017/18. Mae hyn yn cynnwys grant Lwfans Atgyweiriadau Mawr £7.5m y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i awdurdodau lleol i’w cefnogi i gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru.
Gall y Cynlluniau Buddion Cymunedol y mae’r contractwyr yn ymrwymo iddynt gynnwys adnewyddu cyfleusterau lleol, prynu cyflenwadau gan fusnesau lleol a darparu swyddi a chynlluniau hyfforddi ar gyfer pobl leol.
“Gwych I weld arian yn cael ei roi yn ôl i mewn i’r gymuned leol”
Meddai Aelod Lleol Cefn, Sonia Benbow-Jones: “Mae’n wych gweld yr arian rydym wedi’i fuddsoddi mewn gwaith gwella tai yn cael ei roi yn ôl i mewn i’r gymuned leol. Mae tai tenantiaid y Cyngor yn ardal Cefn wedi’u trawsnewid a’u moderneiddio diolch i’r prosiect ac mae nifer o aelodau’r Clwb Bowlio yn denantiaid y Cyngor hefyd felly rydym yn gweld nifer o fanteision o’r prosiect hwn.”
Meddai Cynghorydd Lleol arall Cefn, y Cyng Derek Wright: “Mae’n newyddion ardderchog bod cyfleusterau cymunedol yn cael eu uwchraddio fel rhodd diolch i’r rhaglen gwella tai.
“Mae nifer o glybiau lleol fel hyn yn dibynnu ar wirfoddolwyr a rhoddion i sicrhau bod eu gwasanaethau yn parhau, ac nid yw cegin newydd yn rhywbeth y gallant ei fforddio ar eu pen eu hunain felly rwyf wrth fy modd bod Mitie wedi gallu eu helpu yma.”
“Cyfnod cadarnhaol iawn” i dai cymdeithasol yn Wrecsam
Diolch i Gynlluniau Buddion Cymunedol, mae dros 60 o brentisiaid wedi cael gwaith gan gontractwyr y Cyngor, dros 70 o staff wedi cael cyflogaeth lawn neu ran amser a dros £63,000 wedi cael ei roi fel arian parod neu mewn nwyddau i sefydliadau neu brosiectau yng Nghymru.
Meddai’r Aelod Arweiniol Tai, y Cynghorydd David Griffiths: “Rydym wedi cael sawl blwyddyn o fuddsoddiadau mawr mewn gwaith gwella tai yn Wrecsam ac mae’n dda gweld bod cymaint o glybiau a chyfleusterau lleol wedi gallu elwa o hyn. Mae cynlluniau cyflogaeth a hyfforddiant hefyd wedi elwa.
“Mae hwn yn gyfnod cadarnhaol iawn i dai cymdeithasol yn Wrecsam a bydd hyn yn parhau wrth i fwy o waith gael ei gwblhau dros y flwyddyn nesaf a thu hwnt.”
I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith gwella tai sy’n cael ei wneud i gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru, ewch i wefan y cyngor
Gallwch gael newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam gyda Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI