O dro i dro, mae Cynghorau Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam yn galw ar aelodau i fod ar baneli annibynnol sy’n gwneud penderfyniadau am apeliadau derbyn a gwahardd disgyblion ysgol.
Mae ceisiadau ar agor ar gyfer aelodau newydd nes 31 Gorffennaf, 2024.
Nid oes tâl ar gyfer bod ar y panel (ond bydd costau teithio i, ac yn ôl o’r lleoliadau yn cael eu talu) – mae hon yn swydd bwysig y gallwch ei gwneud os ydych chi’n gymwys ac yn hyblyg.
Mae dau fath o banel apêl efallai y gofynnir i chi eistedd arnynt. Bydd y cwestiynau sydd yn y cais yn ein helpu i benderfynu ar gyfer pa banel y byddech chi fwyaf addas.
Panel apêl derbyniadau
Tasg y panel yw clywed a phenderfynu ar apeliadau rhieni yn erbyn gwrthod derbyn eu plentyn i’w hysgol ddewisol.
Panel apêl gwaharddiadau
Tasg y panel yw gwrando ar apeliadau rhieni yn erbyn gwahardd disgybl a phenderfynu arnynt.
Ynglŷn â rôl aelod o banel
Dyma’r sgiliau rydym ni’n chwilio amdanynt:
- y gallu i wrando yn ddiduedd a gwerthuso dadleuon a thystiolaeth a gyflwynwyd gan y ddwy ochr
- pendantrwydd – gan fod rhaid gwneud penderfyniad am yr apêl yn fuan ar ôl gwrando arni
- hyblygrwydd – bydd angen i chi fod yn hyblyg gyda’ch amser, gan fod apeliadau ar y cyfan yn cael eu clywed yn ystod oriau gwaith (gofynnir i chi a ydych chi ar gael cyn trefnu gwrandawiad apêl bob amser)
Sut allaf i wneud cais?
Os oes gennych chi ddiddordeb yn y swydd bwysig hon ac os ydych yn gymwys, gallwch wneud cais gan ddefnyddio’r ffurflen gais erbyn 31 Gorffennaf, 2024 (4pm).