Efallai bod ymwelwyr craff wedi sylwi ar gyfres o feiciau lliwgar wedi’u gosod o amgylch canol y ddinas dros yr wythnosau diwethaf. Ar wahân i fod yn rhan ganolog o ymgais Wrecsam ar gyfer y gystadleuaeth Cymru yn ei Blodau eleni, mae’r beiciau wedi aros yn eu lle drwy gydol yr haf ac maent yn awr yn rhan o lwybr newydd yn dathlu dechrau a diwedd Cam 2 o Ras Feicio Taith Prydain eleni yng nghanol y ddinas.
I gyd-fynd â’r llwybr lliwgar, cynhyrchwyd map newydd i gefnogi cystadleuaeth dros y bythefnos nesaf. Anogir ymwelwyr i fynd i chwilio am unrhyw un o’r 12 beic newydd sbon – mae pob un wedi’i leoli tu allan / tu fewn i fusnes lletygarwch lleol – ac yna tynnu hunlun gydag un ohonynt cyn anfon y lluniau at tourism@wrexham.gov.uk, cyn 12.00pm 31 Awst, ynghyd â rhif ffôn cyswllt.
Bydd un enillydd lwcus yn cael ei ddewis ar hap am hanner dydd, ddydd Gwener, 1 Medi. Bydd y wobr yn cynnwys ymweld â’r babell lletygarwch corfforaethol wrth y llinell derfyn, ddydd Llun, 4 Medi a chyfle i gwrdd â’r beiciwr buddugol! Mae croeso i blant ymgeisio ac fe ganiateir iddynt ddod ag un rhiant / gofalwr gyda nhw os ydynt yn llwyddiannus ar y diwrnod.
Meddai’r Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam;
“Yn ogystal â bod yn falch iawn o allu croesawu Taith Prydain yn ôl i Wrecsam ym mis Medi, rydym yn ddiolchgar iawn i’r deuddeg busnes lletygarwch sydd wedi addurno beic ac sy’n cefnogi’r ras drwy’r gystadleuaeth a’r llwybr hwn. Bydd y beiciau presennol, a osodwyd ar gyfer y gystadleuaeth Cymru yn ei Blodau, yn aros yn eu lle cyn ac ar ôl y ras ac yn ychwanegu at yr olygfa y bydd Canol Dinas Wrecsam yn ei chreu i ymwelwyr a gwylwyr teledu ar 4 Medi!”
Mae’r mapiau ar gael i’w lawrlwytho drwy arbed y map isod – neu fe ellir casglu copïau papur o’r Ganolfan Wybodaeth i Ymwelwyr Wrecsam ar Stryt Caer ac unrhyw un o’r busnesau eraill sydd wedi’u rhestru isod o 24 Awst.
- Bwyty Croeshywel, Llai
- Coleg Cambria, Stryt Caer
- Gwesty Ramada Plaza
- Caffi a Deli To^st, Stryt Siarl
- The Fat Boar, Stryt Yorke
- Caffi Lot 11, Stryt yr Allt
- CarniBoar Steakhouse, Y Stryd Fawr
- Neuadd Maesgwyn, Ffordd Yr Wyddgrug
- Gwesty Holt Lodge
- Gwesty Lemon Tree
- Canolfan Hamdden Byd Dŵr