Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Paratowch ar gyfer Taith Prydain gyda llwybr beicio newydd yn Wrecsam!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Paratowch ar gyfer Taith Prydain gyda llwybr beicio newydd yn Wrecsam!
Y cyngorPobl a lle

Paratowch ar gyfer Taith Prydain gyda llwybr beicio newydd yn Wrecsam!

Diweddarwyd diwethaf: Awst 24, 2023 2:35 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Paratowch ar gyfer Taith Prydain gyda llwybr beicio newydd yn Wrecsam!
RHANNU

Efallai bod ymwelwyr craff wedi sylwi ar gyfres o feiciau lliwgar wedi’u gosod o amgylch canol y ddinas dros yr wythnosau diwethaf.  Ar wahân i fod yn rhan ganolog o ymgais Wrecsam ar gyfer y gystadleuaeth Cymru yn ei Blodau eleni, mae’r beiciau wedi aros yn eu lle drwy gydol yr haf ac maent yn awr yn rhan o lwybr newydd yn dathlu dechrau a diwedd Cam 2 o Ras Feicio Taith Prydain eleni yng nghanol y ddinas.

I gyd-fynd â’r llwybr lliwgar, cynhyrchwyd map newydd i gefnogi cystadleuaeth dros y bythefnos nesaf.   Anogir ymwelwyr i fynd i chwilio am unrhyw un o’r 12 beic newydd sbon – mae pob un wedi’i leoli tu allan / tu fewn i fusnes lletygarwch lleol – ac yna tynnu hunlun gydag un ohonynt cyn anfon y lluniau at tourism@wrexham.gov.uk, cyn 12.00pm 31 Awst, ynghyd â rhif ffôn cyswllt.

Bydd un enillydd lwcus yn cael ei ddewis ar hap am hanner dydd, ddydd Gwener, 1 Medi. Bydd y wobr yn cynnwys ymweld â’r babell lletygarwch corfforaethol wrth y llinell derfyn, ddydd Llun, 4 Medi a chyfle i gwrdd â’r beiciwr buddugol!   Mae croeso i blant ymgeisio ac fe ganiateir iddynt ddod ag un rhiant / gofalwr gyda nhw os ydynt yn llwyddiannus ar y diwrnod.

Meddai’r Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam;

“Yn ogystal â bod yn falch iawn o allu croesawu Taith Prydain yn ôl i Wrecsam ym mis Medi, rydym yn ddiolchgar iawn i’r deuddeg busnes lletygarwch sydd wedi addurno beic ac sy’n cefnogi’r ras drwy’r gystadleuaeth a’r llwybr hwn.  Bydd y beiciau presennol, a osodwyd ar gyfer y gystadleuaeth Cymru yn ei Blodau, yn aros yn eu lle cyn ac ar ôl y ras ac yn ychwanegu at yr olygfa y bydd Canol Dinas Wrecsam yn ei chreu i ymwelwyr a gwylwyr teledu ar 4 Medi!”

Mae’r mapiau ar gael i’w lawrlwytho drwy arbed y map isod – neu fe ellir casglu copïau papur o’r Ganolfan Wybodaeth i Ymwelwyr Wrecsam ar Stryt Caer ac unrhyw un o’r busnesau eraill sydd wedi’u rhestru isod o 24 Awst.

  1. Bwyty Croeshywel, Llai
  2. Coleg Cambria, Stryt Caer
  3. Gwesty Ramada Plaza
  4. Caffi a Deli To^st, Stryt Siarl
  5. The Fat Boar, Stryt Yorke
  6. Caffi Lot 11, Stryt yr Allt
  7. CarniBoar Steakhouse, Y Stryd Fawr
  8. Neuadd Maesgwyn, Ffordd Yr Wyddgrug
  9. Gwesty Holt Lodge
  10. Gwesty Lemon Tree
  11. Canolfan Hamdden Byd Dŵr
TAGGED:wrexham
Rhannu
Erthygl flaenorol Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Erthygl nesaf Ymweld â Wrecsam am y tro cyntaf? Beth i’w wneud a ble i fynd… Ymweld â Wrecsam am y tro cyntaf? Beth i’w wneud a ble i fynd…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 14, 2026
glyndwr
Oeddech chi’n gwybod am Fforwm Landlordiaid 2026 yn Wrecsam?
Digwyddiadau
Medi 14, 2026
Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Guildhall
Y cyngor

Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth

Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu

Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English