Os ydych chi’n gymwys ar gyfer taliad £200 Llywodraeth Cymru tuag at filiau tanwydd y gaeaf, mae modd gwneud cais yn awr – ond darllenwch ymlaen i ddarganfod y ffyrdd swyddogol o gyflwyno eich cais!
Yn anffodus, rydym wedi clywed am bobl ledled Cymru yn rhoi gwybod eu bod wedi’u twyllo i rannu eu manylion banc, gan gredu eu bod yn gwneud cais am daliad tanwydd y gaeaf, ac yna’n darganfod mai twyll ydoedd.
Dim ond dwy ffordd swyddogol sydd o wneud cais am Daliad Tanwydd y Gaeaf:
- Gwneud cais ar-lein drwy dudalen Taliad Tanwydd y Gaeaf y cyngor
- Os nad ydych yn gallu gwneud cais ar-lein, ffoniwch ni a gofyn i ni eich ffonio yn ôl. Yna byddwn yn llenwi’r ffurflen i chi dros y ffôn
Os ydych chi’n derbyn neges destun, e-bost, neu alwad ffôn nad ydych wedi gofyn amdanynt, peidiwch â rhannu gwybodaeth bersonol gan nad yw’r rhain yn ffyrdd dilys o gyflwyno cais. Gallwch roi gwybod i OfComm am y rhain drwy anfon y neges destun ymlaen, neu anfon neges destun gyda’r manylion at 7726.
Oes gennych chi aelod o’ch teulu, cymydog neu gyfaill nad ydynt yn defnyddio gwasanaethau ar-lein? Sicrhewch eu bod yn gwybod mai dim ond dwy ffordd swyddogol sydd o wneud cais er mwyn eu cadw’n ddiogel hefyd.
Eisiau gwybod a ydych yn gymwys am y taliad untro hwn? Mae rhagor o fanylion yn ein herthygl Gwirio i weld os ydych yn gymwys i hawlio £200 tuag at eich bil ynni.
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI