Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Eisiau gwybod beth yw eich ôl-troed carbon? Cewch wybod mwy yma!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 26-27 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Eisiau gwybod beth yw eich ôl-troed carbon? Cewch wybod mwy yma!
Pobl a lle

Eisiau gwybod beth yw eich ôl-troed carbon? Cewch wybod mwy yma!

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 1, 2022 2:14 pm
Rhannu
Darllen 6 funud
Carbon F
RHANNU

Wrth i ni barhau i fyw mewn argyfwng hinsawdd byd-eang, mae’n bwysig ein bod i gyd yn ystyried ffyrdd y gallwn wneud yn well a lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd.

Cynnwys
  • Ydych chi wedi llenwi ein harolwg newid hinsawdd? Mae gwobrau gwych i’w hennill!
    • Awgrymiadau i arbed ynni yn y cartref

Mae gwybod beth yw ein heffaith unigol ar yr amgylchedd yn fan cychwyn da i wneud y newidiadau hyn, felly oni fyddai’n ddefnyddiol gallu canfod beth yw eich ôl-troed carbon mewn ychydig o gamau syml?

Mae cyfrifiannell ôl-troed carbon y WWF yn dangos sut ydych chi’n cymharu ag ôl-troed carbon cyfartalog y DU ar gyfer 2022. Y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw llenwi holiadur byr am y bwydydd yr ydych yn eu bwyta, sut ydych chi’n teithio, eich cartref a’r nwyddau yr ydych yn eu prynu.

Bydd modd gweld eich sgôr ym mhob categori a chael awgrymiadau defnyddiol o sut i wella’r sgôr yn y dyfodol i leihau eich ôl-troed carbon.

DARGANFOD BETH YW EICH ÔL-TROED CARBON

Ydych chi wedi llenwi ein harolwg newid hinsawdd? Mae gwobrau gwych i’w hennill!

Mae ein harolwg newid hinsawdd a datgarboneiddio bellach ar agor ac mae arnom ni eisiau cymaint o drigolion â phosibl i gymryd rhan er mwyn i ni gefnogi pobl yn well wrth i ni wneud dewisiadau arbed ynni yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Mae yna hefyd wobrau gwych i’w hennill a fydd yn gymorth i chi arbed ynni a lleihau carbon. Mae pawb sy’n cwblhau’r arolwg ac yn gadael cyfeiriad e-bost yn cael eu cynnwys mewn raffl fawreddog, gyda chyfle i ennill taleb beic, popty araf, ffrïwr aer, gwefrydd ffôn symudol solar a thocyn blwyddyn i Xplore!

Meddai’r Cyng. David A Bithell, Cefnogwr yr Hinsawdd: “Yn 2019 datganasom Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol, ac fel rhan o’n Cynllun Datgarboneiddio mae arnom ni eisiau gweithio gyda phobl sy’n byw ac yn gweithio yn Wrecsam i godi eu hymwybyddiaeth a gwella eu dealltwriaeth o’r newidiadau sydd ar bob un ohonom ni angen eu gwneud i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

“Rydym ni’n gobeithio y bydd yr arolwg hwn yn codi ymwybyddiaeth pobl o’r materion hyn, yn ogystal â’n helpu ni i ddysgu ychydig bach mwy am bobl Wrecsam, a fydd yn gymorth i ni eu cefnogi i wneud y newidiadau sy’n gallu cael effaith fawr. Mae’r arolwg ar agor tan 30 Tachwedd ac yn cymryd ychydig funudau i’w gwblhau, felly cymerwch ran os fedrwch chi. Bydd pawb sy’n cymryd rhan ac yn gadael cyfeiriad e-bost yn cael eu cynnwys yn ein raffl fawreddog – ac mae gwobrau gwych ar gael.”

Cymrwch ran yn ein harolwg newid hinsawdd

Awgrymiadau i arbed ynni yn y cartref

Dyma ambell beth y gallwch chi eu gwneud i arbed ynni yn y cartref:

  • Newid bylbiau golau traddodiadol am rai LED. Mae bylbiau LED yn defnyddio tua hanner yr ynni y mae’r bylbiau arbed ynni mawr troellog yn eu defnyddio. Felly, pan fydd hi’n bryd i chi newid eich bylbiau, beth am roi cynnig ar rai LED.
  • Atal drafftiau. Gall fod yn gymharol rad i atal drafftiau yn eich cartref, yn defnyddio pethau sydd ar gael mewn siopau DIY. Fe allwch chi gael rholiau o sbwng atal drafftiau ar gyfer ffenestri. I atal gwynt oer rhag dod i mewn drwy’ch drws ffrynt, beth am gael brws atal drafftiau ar gyfer eich blwch llythyrau neu orchudd ar gyfer y twll clo?
  • Llenwi’r peiriant golchi. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n llenwi’r peiriant golchi bob tro rydych chi’n ei ddefnyddio – bydd gennych chi lai o lwythi ac mi fyddwch chi’n arbed ynni.
  • Berwi’r hynny o ddŵr sydd arnoch chi ei angen. Po fwyaf o ddŵr sydd gennych chi yn y tegell, y mwyaf o ynni rydych chi’n ei ddefnyddio. Berwch yr hynny o ddŵr sydd arnoch chi ei angen bob tro.
  • Diffodd dyfeisiau. Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni fe allwch chi arbed hyd at £40 y flwyddyn drwy ddiffodd dyfeisiau yn hytrach na’u gadael yn segur.
  • Addasu thermostatau ar eich gwresogyddion. Os oes gennych chi rai, defnyddiwch nhw – efallai nad oes arnoch chi angen gwresogi pob ystafell.
  • Insiwleiddio’ch silindr dŵr poeth. Mae silindr dŵr poeth heb ei inswleiddio yn colli gwres. Mae hyn yn golygu bod y dŵr y tu mewn yn oeri’n gynt. Mae rhoi siaced inswleiddio o amgylch eich silindr yn gallu arbed £40 i chi mewn blwyddyn.
  • Gwirio pwysedd eich boeler. Mae hyn yn dweud wrthych chi beth yw pwysedd y dŵr sy’n cylchredeg yn eich system wresogi. Os yw’n rhy isel, bydd yn gwneud eich system yn aneffeithlon ac yn defnyddio mwy o ynni i wresogi’ch cartref.

Cymrwch ran yn ein harolwg newid hinsawdd

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.yourvoicewrexham.com/arolwg/1663 “] Cymerwch ran yn ein harolwg
[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Christmas Cyhoeddi dyddiad Noson Goleuadau Nadolig – 24 Tachwedd!
Erthygl nesaf smartpho Peidiwch â chael eich twyllo wrth wneud cais am Daliad Tanwydd y Gaeaf

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst
Pobl a lle
Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Awst 25, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 24, 2026
Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Y cyngor
Awst 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Red Ensign Flag
ArallDigwyddiadauPobl a lle

Coffáu Diwrnod y Llynges Fasnachol trwy godi’r Lluman Coch

Awst 24, 2026
Car park
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌

Awst 21, 2026
Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr

Awst 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English