Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Peidiwch â cholli allan ar hyd at £2,000 tuag at gostau gofal plant
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Llay coal tip in Wrexham
Dyfarnwyd dros £1.3 miliwn i Gyngor Wrecsam o gynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo
Arall
The renal team at the Maelor Hospital in Wrexham
12 Mawrth yw Diwrnod Arennau’r Byd!
Arall
Wrexham v Swansea
Wrecsam v Abertawe – beth am barcio a theithio?
Digwyddiadau Pobl a lle
Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026
Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026
Pobl a lle
Young Carers Action Day 2026
Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc 2026
Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Peidiwch â cholli allan ar hyd at £2,000 tuag at gostau gofal plant
Pobl a lle

Peidiwch â cholli allan ar hyd at £2,000 tuag at gostau gofal plant

Diweddarwyd diwethaf: 2022/01/26 at 3:21 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Childcare
RHANNU

Erthyl Gwadd – CThEM

Gallai miloedd o deuluoedd sy’n gweithio yng Nghymru fod yn colli cyfle i gael hyd at £2,000 y flwyddyn i helpu gyda chost gofal plant, mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn atgoffa rhieni, cyn hanner tymor mis Chwefror.

Mae Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth – y taliad gofal plant atodol o 20% – yn rhoi hyd at £500 i deuluoedd cymwys sy’n gweithio bob tri mis (neu £1,000 os yw eu plentyn yn anabl) tuag at gost clybiau gwyliau, clybiau cyn ac ar ôl ysgol, gwarchodwyr plant a meithrinfeydd, a chynlluniau gofal plant achrededig eraill.

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

Defnyddiwyd y cynllun gan dros 11,035 o deuluoedd sy’n gweithio ym mis Medi 2021, yng Nghymru. Yn gyffredinol, talodd CThEM dros £35 miliwn o daliadau atodol, a rannwyd rhwng bron i 316,000 o deuluoedd ledled y DU – cynnydd o tua 90,000 o deuluoedd o’u cymharu â mis Medi 2020.

Mae’r cynllun Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth ar gael ar gyfer plant hyd at 11 oed, neu 17 oed os oes gan y plentyn anabledd. Am bob £8 a roddir mewn cyfrif, bydd teuluoedd yn cael taliad atodol o £2 ychwanegol gan y llywodraeth.

Gall rhieni a gofalwyr wirio a ydynt yn gymwys a chofrestru ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth drwy GOV.UK.

Meddai Myrtle Lloyd, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEM ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid:

“Mae’r taliad atodol o 20% gan y llywodraeth yn cynnig cymorth i deuluoedd sy’n gweithio i dalu am ofal plant, boed hynny’n filiau meithrinfeydd, clybiau ar ôl ysgol neu glybiau gwyliau. Chwiliwch am ‘Tax-Free Childcare’ ar GOV.UK i gael gwybod mwy.”

Drwy dalu arian i mewn i’w cyfrifon, gall teuluoedd elwa o’r taliad atodol o 20% a defnyddio’r arian i dalu am gostau gofal plant pan fydd angen iddynt wneud hynny. Gellir agor cyfrifon ar unrhyw adeg o’r flwyddyn a gellir eu defnyddio ar unwaith.

Er enghraifft, os oes gan rieni a gofalwyr blant oed ysgol ac yn defnyddio clybiau gwyliau yn ystod gwyliau’r ysgol, gallent dalu arian i’w cyfrifon drwy gydol y flwyddyn. Mae hyn yn golygu y gallent rannu cost gofal plant a manteisio ar y taliad atodol o 20% gan y llywodraeth ar yr un pryd.

Mae Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth hefyd ar gael i blant cyn oed ysgol sy’n mynychu meithrinfeydd, gwarchodwyr plant neu ddarparwyr gofal plant eraill. Yn aml bydd gan deuluoedd sydd â phlant iau gostau gofal plant uwch na theuluoedd sydd â phlant hŷn, felly mae’r cynilion sy’n rhydd o dreth wir yn gallu gwneud gwahaniaeth.

Gall darparwyr gofal plant hefyd gofrestru ar gyfer cyfrif darparwr gofal plant drwy GOV.UK i gael taliadau gan rieni a gofalwyr drwy’r cynllun.

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Dweud eich dweud am ein llwybrau beicio a cherdded arfaethedig Dweud eich dweud am ein llwybrau beicio a cherdded arfaethedig
Erthygl nesaf Croeso i’ch pleidlais! Croeso i’ch pleidlais!

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Llay coal tip in Wrexham
Dyfarnwyd dros £1.3 miliwn i Gyngor Wrecsam o gynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo
Arall Mawrth 12, 2026
The renal team at the Maelor Hospital in Wrexham
12 Mawrth yw Diwrnod Arennau’r Byd!
Arall Mawrth 12, 2026
Wrexham v Swansea
Wrecsam v Abertawe – beth am barcio a theithio?
Digwyddiadau Pobl a lle Mawrth 11, 2026
Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026
Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026
Pobl a lle Mawrth 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrexham v Swansea
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam v Abertawe – beth am barcio a theithio?

Mawrth 11, 2026
Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026
Pobl a lle

Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026

Mawrth 11, 2026
Young Carers Action Day 2026
Pobl a lle

Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc 2026

Mawrth 10, 2026
Wrexham Ty Pawb
DigwyddiadauPobl a lle

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn Nhŷ Pawb

Mawrth 9, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English