Efallai na allwn ni ddod at ein gilydd yng nghanol y dref i ddathlu Diwrnod Chwarae eleni, ond rydym ni’n dal i ddathlu!
Felly, ar 5 Awst, fe fyddwn ni’n cynnal Diwrnod Chwarae rhithiol, a’r thema fydd ‘Anturiaethau Bob Dydd’.
Mae Tîm Cefnogi Chwarae ac Ieuenctid Wrecsam yn gweithio gyda’u partneriaid i symud Diwrnod Chwarae ar-lein fel y gallwch ymuno â ni o’ch cartrefi eich hunain. Gan gadw at arddull Diwrnod Chwarae, nid ydym angen i chi wario unrhyw arian a gallwch chwarae gyda’r pethau rydych yn dod o hyd iddynt yn eich cartrefi eich hunain.
Bydd Wrecsam hefyd yn cefnogi Chwarae Cymru wrth iddo wneud sŵn ar gyfer Chwarae Plant am 2.00pm, felly estynnwch eich sosbyn, offer cerddorol neu cymeradwywch i ddangos eich bod yn gwerthfawrogi Chwarae plant.
Dywedodd y Cyng Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Plant, “rwy’n gyffrous iawn am y Diwrnod Chwarae eleni. Mae bob amser yn ddiwrnod gwych ac er y bydd eleni yn wahanol, bydd yna lawer o hwyl i’w gael gyda llwyth o fideos a gweithgareddau rhyngweithiol i ymuno ynddynt ar-lein. Gobeithio y bydd pawb yn cymryd yr amser ddydd Mercher, 5 Awst i gael golwg ar y fideos ac ymuno mewn unrhyw un y gallan nhw!’
Rydym yn creu ffilmiau am y dydd ar hyn o bryd, felly os ydych yn dymuno dysgu jyglo, crefftio, gwylio sioe bypedau, chwarae gemau neu hyd yn oed clywed Rapunzel y Maer yn Wrecsam yna dewch o hyd i ni yma….
- Facebook Cymraeg: Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
- Facebook Saesneg: Wrexham County Borough Council
- Twitter Cymraeg: @cbswrecsam
- Twitter Saesneg: @wrexhamcbc
Gallwch hefyd ddilyn ein cyfrifon Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd a Chwarae Wrecsam yma:
- Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam
- @Chwaraecymraeg
Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws
YMGEISIWCH RŴAN