Wrth i ysgolion, colegau a phrifysgolion ailagor, ac wrth i fwy o bobl ddychwelyd i’r gwaith y mis hwn, mae bywyd yn dechrau teimlo ychydig yn fwy ‘normal’.
Mae hynny’n beth da…ond yn beth peryglus hefyd.
Ar ôl chwe mis o gyfnod clo, mae’n teimlo’n dda i gael ychydig o’n hen arferion yn ôl yn ein bywydau…hyd yn oed os nad yw pethau’n union yr un fath ag o’r blaen.
Gallu dychwelyd i’r dosbarth neu i’r swyddfa. Gweld mwy o siopau, tafarndai a bwytai yn agor. Gallu mynd i ragor o lefydd a gwneud mwy o bethau eto. Mae’n rhyddhad i nifer ohonom.
Ond er bod bywyd yn ymddangos yn fwy normal ar yr wyneb, mae Covid-19 dal yma…ac yn effeithio ar bobl bob diwrnod.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam:
“Os nad ydym ni i gyd yn chwarae ein rhan, fe allem ni fynd am yn ôl yn gyflym iawn…ac wynebu ail don.
“Os yw pethau’n mynd yn ddigon drwg, fe allem ni golli ein rhyddid eto…ac mae’r cyfnod clo lleol yng Nghaerffili yn brawf o hyn.
“Ond yn bwysicach fyth, gall rhagor o bobl golli eu bywydau.
“Felly peidiwch â difaru’r hydref hwn. Cadwch bellter cymdeithasol, a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel.
“Bydd y penderfyniad rydych chi’n ei wneud yn cyfri.”
Efallai eich bod chi’n teimlo’n anorchfygol…ond beth am y bobl rydych yn eu caru?
Mae pryder nad yw pobl yn poeni am Covid-19 bellach, a’u bod wedi anghofio pa mor ddifrifol yw’r pandemig.
Dywedodd Ian Bancroft, Prif Weithredwr Cyngor Wrecsam:
“Mae’n bosib fod pobl yn diflasu neu’n rhwystredig gyda’r holl reolau, ac yn teimlo eu bod yn ddigon iach i ymdopi os ydynt yn ei ddal.
“Ond does neb yn anorchfygol, a gallent drosglwyddo’r haint ymlaen i bobl…gan gynnwys ffrindiau, teulu, teidiau a neiniau.
“Felly peidiwch â chymryd risgiau heb fod angen. Helpwch i gadw’r bobl rydych yn eu caru yn ddiogel. Helpwch i gadw pawb yn ddiogel.”
Beth yw’r pwynt os nad ydw i’n gallu cadw pellter cymdeithasol drwy’r amser?
Mewn rhai sefyllfaoedd – hyd yn oed gyda mesurau diogelwch ar waith – mae’n anodd cadw pellter cymdeithasol. Mewn swyddi penodol, er enghraifft.
Ond peidiwch ag ychwanegu at y risg.
Dywedodd y Cynghorydd Pritchard:
“Ceisiwch gadw’r siawns o ddal neu drosglwyddo’r feirws mor isel ag sy’n bosib. Cadwch ar wahân pan fo’n bosib.
“Eisiau rhoi braich ar ysgwydd neu law ar gefn eich ffrind neu gydweithiwr? Peidiwch. Efallai ei fod yn ddiniwed, ond fe allai helpu i ledaenu’r haint…a bydd rhywun yn rhywle yn dioddef.”
Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws
Gallwch chi wneud gwahaniaeth
Dywedodd y Cynghorydd Pritchard:
“Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cymryd cadw pellter cymdeithasol o ddifri, a hoffwn ddiolch o waelod calon i bawb sy’n gwneud eu rhan.
“Bydd yr hydref yn gyfnod allweddol i Wrecsam, i Gymru ac i’r DU, ac wrth barhau i ddilyn y rheolau – cadw pellter cymdeithasol – gallwch chi wneud gwahaniaeth.
“Gall pob un ohonom reoli diweddglo’r stori yma.”
Un peth arall…
Ar ddechrau’r wythnos, rhannodd Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru Vaughan Gething enghraifft o ba mor hawdd gall y feirws ledaenu. Mae’n agoriad llygaid…
“Hoffwn rannu’r enghraifft hwn gyda chi o’r wythnosau diwethaf.
“Daeth criw o ffrindiau yn ôl o wyliau byr yn Ibiza’r mis diwethaf – daeth tri ohonynt yn ôl gyda’r coronafeirws.
“Pan ddaethant adref, trosglwyddodd un o’r grŵp y feirws ymlaen i’w bartner a’i Dad.
“Cynhaliodd aelod arall o’r grŵp barti ddiwrnod ar ôl cyrraedd adref lle daliodd pedwar o bobl coronafeirws.
“Trosglwyddodd un o’r rhain y feirws i’w frawd, ac fe drosglwyddodd o’r haint i’w ffrind trwy rannu car.
“Fe drosglwyddodd rhywun arall oedd yn y parti y feirws ymlaen i’w chwaer, a aeth ymlaen i’w drosglwyddo i ffrind ar noson allan.
“O fewn ychydig o ddiwrnodau i’r ffrindiau ddychwelyd adref, roedd gan 13 person coronafeirws.”
YMGEISIWCH RŴAN