Er y bydd yn cymryd ychydig o amser i ddod i arfer â’r newidiadau i’r Stryt Fawr a mynediad i ganol y ddinas, nid yw hyn yn esgus dros yrru heibio arwyddion dim mynediad.
Mae’r arwyddion yno i wneud gyrwyr yn ymwybodol o’r system newydd sydd ar waith, ond yn anffodus rydym wedi gweld sawl cerbyd yn torri’r gyfraith ac yn rhoi defnyddwyr eraill y ffordd mewn perygl trwy anwybyddu’r rheolau newydd.
Mae’r ymddygiad yma’n beryglus ac fe all ac fe fydd yn arwain at erlyniadau.
Mae rhagor o fanylion sy’n esbonio’r trefniadau presennol ar gael ar ein blog a’n gwefan.
Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros yr Economi, y Cynghorydd Nigel Williams: “Cynllun y Stryt Fawr yw’r normal newydd a bydd cadw at y rheolau a’r rheoliadau newydd yn gwneud yr ardal yn fwy diogel ac yn fwy croesawgar i bawb.
“Mae’r bolardiau a’r arwyddion yn eu lle i sicrhau diogelwch pawb sy’n dod i ganol y ddinas.
“Mae diddordeb mawr wedi bod yn y cynllun newydd a sut y gall gael effaith gadarnhaol ar fasnach ac ymweliadau â chanol y ddinas. Sylwais hefyd ar lawer o ddiddordeb yn y bolardiau crwn ar hyd Stryt Yorke yn ddiweddar! Mae’r rhain yn eu lle gan nad yw’r ffordd sy’n arwain at y Stryt Fawr yn syth felly maen nhw yno i gynorthwyo ceir i yrru’n syth, yn ogystal ag i atal parcio yn yr ardal.”
*Mae arian a sicrhawyd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, Cronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, y Gronfa Strydoedd Saffach a’r Gronfa Teithio Llesol wedi ein galluogi i wneud y Stryd Fawr a Chanol Dinas Wrecsam yn fwy deniadol a chyfeillgar i gerddwyr.