Mae Cyngor Wrecsam yn falch o gadarnhau y bydd pencadlys y Sgowtiaid a’r Geidiau yn symud o’i gartref presennol ger Gorsaf Drenau Gyffredinol Wrecsam i’r hen ganolfan gymunedol yn Rhos-ddu.
Bydd y symudiad, sy’n rhan o brosiect Adfywio Porth Wrecsam, yn sicrhau bod y sefydliadau ieuenctid gwerthfawr hyn yn parhau i ffynnu mewn lleoliad cymunedol pwrpasol.
Mae’r hen ganolfan gymunedol wedi bod yn wag am y tair blynedd diwethaf a bydd – yn amodol ar ganiatâd cynllunio – yn y pen draw yn cael ei disodli gan gyfleusterau newydd, pwrpasol sy’n bodloni anghenion hirdymor y Sgowtiaid, y Geidiau a’r gymuned ehangach yn well.
Dwedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Rydym yn falch o gefnogi’r Sgowtiaid a’r Geidiau wrth iddynt symud i’w cartref newydd yn Rhos-ddu.
“Mae’r grwpiau hyn yn chwarae rôl hanfodol wrth ddatblygu ein pobl ifanc, ac mae’n bwysig bod ganddyn nhw ganolfan sy’n adlewyrchu’r gwerth maen nhw’n ei roi i’n cymunedau.”
Mae’r ganolfan gymunedol wedi’i lleoli yn ward Stansty ac mae’r symudiad yn debygol o gael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn nesaf.
Ychwanegodd y cynghorydd lleol, y Cynghorydd I David Bithell MBE: “Rwy’n falch iawn ein bod wedi sicrhau lleoliad sydd nid yn unig yn bodloni eu hanghenion presennol ond yn rhan o weledigaeth tymor hwy.
“Mae ailddefnyddio safle Rhos-ddu yn cadw’r Sgowtiaid a’r Geidiau yn weithgar ac yn weladwy yn y gymuned, ac yn gosod y llwyfan ar gyfer cyfleusterau modern, pwrpasol a fydd o fudd i genedlaethau i ddod.”

Dywedodd Gemma Williams, Comisiynydd Adran Girlguiding Wrecsam: “Mae Geidiau Wrecsam yn gyffrous am y cyfle newydd hwn ac yn croesawu gweithio gyda’r cyngor a’r partneriaid i sefydlu cyfleuster modern yn agos at ganol y ddinas, a fydd yn bodloni anghenion ein haelodau a’r gymuned ehangach.”
Dywedodd Joanne Briggs, Gwirfoddolwr Arweiniol Rhanbarthol Sgowtiaid Wrecsam: “Fel gwirfoddolwr arweiniol rhanbarthol gyda Sgowtiaid Wrecsam, rwy’n falch iawn y bydd ein pencadlys yn symud i’r ganolfan gymunedol newydd yn Rhos-ddu. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ni fod yn rhan hyd yn oed mwy gweladwy a gweithgar o’r gymuned leol.
“Mae sgowtio yn chwarae rhan hanfodol yn natblygiad pobl ifanc, ac mae’n bwysig bod gennym ofod pwrpasol sy’n addas at ein hanghenion. Bydd y cyfleuster newydd yn ein galluogi i barhau i ffynnu a chynnig profiadau gwerthfawr i ieuenctid Wrecsam.
“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at symud i’r lleoliad cymunedol hwn a gweithio hyd yn oed yn agosach gyda’r trigolion lleol. Mae’r adleoliad hwn yn gam cadarnhaol fydd o fudd i’r Sgowtiaid ac ardal ehangach Rhos-ddu am genedlaethau.”
Mae’r adleoliad yn cyd-fynd â phrosiect adfywio Porth Wrecsam ehangach, sy’n parhau i yrru buddsoddiad, cyfleoedd a datblygiad sy’n canolbwyntio ar y gymuned ledled y dref.
Mae’r prosiect yn cynnwys cynigion ar gyfer gorsaf drafnidiaeth newydd o flaen yr orsaf drenau, gan gynnig gwell cyfnewidfa rhwng rheilffyrdd, bysus a dulliau eraill o deithio, yn ogystal â gwell llwybrau cerdded, olwyno a beicio.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.