Bydd pennaeth newydd wrth lyw ysgol uwchradd yn Wrecsam yn yr hydref.
Bydd Simon Ellis, Pennaeth Ysgol Maelor yn Llannerch Banna ar hyn o bryd, yn ymuno ag Ysgol Clywedog ddechrau mis Medi.
Mae Mr Ellis wedi bod yn bennaeth ar Ysgol Maelor ers 13 o flynyddoedd ac mae ganddo brofiad helaeth.
Meddai: “Mi fydda i’n colli gweithio yn Llannerch Banna, ond mae cael arwain un o ysgolion mwyaf Wrecsam yng nghanol ein dinas sy’n gwella’n barhaus yn gyfle prin a chyffrous.
“Rwyf eisoes wedi cwrdd â llawer o’r disgyblion a’r staff yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf, ac mae eu brwdfrydedd a’u hegni ar gyfer y dyfodol wedi creu argraff arna i.
“Rwyf hefyd wedi cael cyfle i weithio gyda’r Dirprwy Bennaeth, Miranda Cookson, i benodi staff newydd gwych yn barod ar gyfer mis Medi.”
Y weledigaeth hirdymor
Mae uchelgais Ysgol Clywedog, sydd â thros 830 o ddisgyblion ar y gofrestr, wedi creu argraff fawr arno.
Meddai: “Mae gan y Corff Llywodraethu a Chyngor Wrecsam gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer yr ysgol, ac mae’r weledigaeth hirdymor yn drawiadol.
“Rydw i’n edrych ymlaen at gwrdd â’r rhieni a’r gofalwyr yn ystod y misoedd nesaf yn ogystal â gwahodd rhieni disgyblion blynyddoedd 5 a 6 i’n noson agored Nos Fercher, 18 Medi.”
Meddai Cadeirydd y Corff Llywodraethu, Mrs Paula Wood: “Mae gan Simon enw gwych am weithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, Estyn a Chyngor Wrecsam ac am gyflawni canlyniadau addysg gwych yn ystod y ddegawd ddiwethaf.
“Rydym ni’n croesawu ei brofiad a dw i’n falch iawn ei fod yn ymuno â ni fis Medi.
“Symudodd Simon i’r ardal oddeutu 20 mlynedd yn ôl fel Dirprwy Bennaeth Ysgol Uwchradd Rhosnesni, ac felly mae o’n adnabod cymunedau Wrecsam yn dda iawn ac yn dod â phrofiad hynod lwyddiannus fel pennaeth gydag o.
“Dyma gyfnod cyffrous i Ysgol Clywedog.”