Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Penwythnos Cofio’r Rhyfel Byd Cyntaf – Cynlluniau ar gyfer Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Penwythnos Cofio’r Rhyfel Byd Cyntaf – Cynlluniau ar gyfer Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Penwythnos Cofio’r Rhyfel Byd Cyntaf – Cynlluniau ar gyfer Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 20, 2018 1:08 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Wrexham
RHANNU

Mae llawer ohonoch wedi holi beth rydym ni’n ei gynllunio i gofio 100 mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf ar 11 Tachwedd 2018.

Efallai ei fod ychydig fisoedd i ffwrdd, ond gallwn eich sicrhau bod digwyddiadau wedi cael eu trefnu, a’r mwyaf nodedig ohonynt fydd y Gwasanaeth Cofio Blynyddol wrth Gofeb y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ym Modhyfryd, ddydd Sul am 11am, union ganrif ar ôl i’r gynau dawelu ac ar ôl i’r cadoediad gael ei arwyddo yn Compiégne yng ngogledd Ffrainc.

Cynhelir y gwasanaeth yma bob blwyddyn gyda llawer yn bresennol, ond mae disgwyl i ddigwyddiad cofio eleni ddenu llawer mwy o bobl. Os fyddwch chi’n mynychu, gofynnir i chi fod ym Modhyfryd erbyn 10.45am. Fe fydd y ffyrdd yn cael eu cau felly os ydych chi eisiau defnyddio meysydd parcio’r Llyfrgell neu’r Ganolfan Byd Dŵr, dylech gyrraedd mewn da bryd i barcio.

WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA

Fodd bynnag, nid dyma’r unig ddigwyddiad rydym wedi’i gynllunio, fe fydd y penwythnos yn dechrau ar ddydd Sadwrn 10 Tachwedd gyda Ffos Symudol ac Awyren Ddwbl o’r Rhyfel Byd Cyntaf yn Sgwâr y Frenhines.

Mae’r ffos sydd wedi’i wneud o bren, haearn rhychog a deunyddiau eraill gan ddarparu cipolwg diddorol o fywyd ar Ffrynt y Gorllewin yn ystod Rhyfel Byd Cyntaf. Fe ddaw gyda chyfarpar, arfau, offer, bwyd ac eitemau eraill roedd y milwyr yn eu defnyddio yn ystod y rhyfel. Fe fydd yn brofiad teimladwy i’r teulu cyfan.

Mae’r awyren ddwbl yn atgynhyrchiad o Bristol Scout sef un o’r awyrennau cyntaf yn ystod dyddiau cyntaf y diwydiant hedfan. Roedd hefyd yn un o’r awyrennau un sedd gyntaf i gael ei ddefnyddio fel awyren ymladd

Yn Nhŷ Pawb fe gynhelir Dawns Te Rhyfel Byd Cyntaf gyda cherddoriaeth fyw a fydd yn eich cymryd yn ôl mewn amser. Fe fydd yna sgons ffres wedi’u pobi gyda jam a hufen wedi’i chwipio, cacennau cri traddodiadol a bara brith a menyn.

Tŵr Sant Silyn fydd yn cael y sylw wrth i ddydd Sadwrn ddirwyn i ben er mwyn goleuo un o dros 1,000 o ffaglau ar draws y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Thiriogaethau’r DU Dramor.

Fe fydd yr amseroedd a rhagor o fanylion ar gael yn fuan, a byddwn yn eich diweddaru am y rhain ac unrhyw ddigwyddiadau cofio eraill a fydd yn cael eu trefnu.

Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/community_services/flytipping.htm “] DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Newyddion da i blant … a rhieni … mae’r gwyliau wedi cyrraedd! Newyddion da i blant … a rhieni … mae’r gwyliau wedi cyrraedd!
Erthygl nesaf Gallai’r syniad hwn ennill £50 i chi! Gallai’r syniad hwn ennill £50 i chi!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw
Y cyngor
Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd
Busnes ac addysg Pobl a lle
Medi 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

sign for site
Y cyngor

Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol

Medi 22, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell

Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Pobl a lle

Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach

Medi 22, 2026
Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English