Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Pethau y bydd eich cadi bwyd yn eu caru’r Nadolig hwn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Pethau y bydd eich cadi bwyd yn eu caru’r Nadolig hwn
Y cyngorPobl a lle

Pethau y bydd eich cadi bwyd yn eu caru’r Nadolig hwn

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 19, 2023 10:45 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Food Waste Recycling Caddy
RHANNU

Wrth i ni ymdrechu i wella gyda’n hailgylchu, mae’n bwysig cofio fod ailgylchu ein gwastraff bwyd yn rhywbeth sy’n gwneud gwahaniaeth aruthrol yn Wrecsam.

Cynnwys
  • Esgyrn twrci
  • Bwyd amrwd, bwyd wedi llwydo a chrafu’ch plat
  • Plisgyn, croen a chraidd ffrwythau a llysiau
  • Bwyd Cyflym
  • Yr holl stwff arall

A dros y Nadolig, bydd llawer ohonom yn delio â chyfaint mwy o fwyd nac unrhyw adeg arall o’r flwyddyn.

Felly, mae’n debyg fod hwn yn amser da i atgoffa’n hunain beth fedrwn ni ei ailgylchu yn ein cadi bwyd yn tydi? Pawb yn cytuno? Iawn ta, beth am sôn am rai o’r pethau y byddai eich cadi bwyd yn eu caru’r Nadolig hwn 🙂

Esgyrn twrci

Nid esgyrn twrci yn unig chwaith, gellir ailgylchu esgyrn a charcasau pob cig fel gwastraff bwyd…a chofiwch, mae eich cadi bwyd yn cael ei wagio bob wythnos, ond nid felly eich gwastraff cyffredinol. Felly os na fyddwch yn ailgylchu’r pethau hyn byddent yn eistedd, yn pydru yn eich bin am ychydig wythnosau. Does neb eisiau bin drewllyd … yn arbennig dros y Nadolig.

Oes gennych chi sbarion twrci neu gigoedd eraill? Gallech chi geisio coginio gyda’ch sbarion… meddyliwch am risottos, cyris, cawl a lobsgows. Eisiau ychydig o ysbrydoliaeth? Mae gan wefan Love Food Hate Waste syniadau gwych ar gyfer ryseitiau!

Gallwch ailgylchu cig wedi’i goginio yn eich cadi, ond ceisiwch osgoi gwastraff a achosir drwy brynu gormod.

Bwyd amrwd, bwyd wedi llwydo a chrafu’ch plat

Er gwaethaf ein hymdrechion, bydd un eitem bob hyn a hyn yn mynd yn sownd yng nghefn yr oergell ac yn mynd heibio ei ddyddiad ‘defnyddiwch erbyn’.

Pan fo hyn yn digwydd, dylem bob amser droi at ein cadi. Os yw’n gig amrwd, gall fynd i mewn i’ch cadi. Os yw’n rhywbeth sydd wedi llwydo, gall fynd i’ch cadi hefyd. Rydym yn gwybod ein bod yn ailadrodd ein hunain, ond mae eich cadi’n cael ei wagio bob blwyddyn …. bin drewllyd… ydach chi’n deall beth sydd gennon ni?

Arfer da arall i chi drwy gydol y flwyddyn yw crafu eich plât i mewn i’ch cadi bwyd os oes gennych chi unrhyw sbarion.

Plisgyn, croen a chraidd ffrwythau a llysiau

Gellir ailgylchu plisgyn fel gwastraff bwyd. Felly os ydych chi’n mwynhau cnau castan neu unrhyw gnau dros y Nadolig, gwnewch yn siŵr eich bod yn ailgylchu’r plisgyn yn eich cadi. Gellir ailgylchu plisgyn llai Nadoligaidd, fel plisgyn wy 😉

Gellir ailgylchu crwyn llysiau a ffrwythau ynghyd â chraidd afal. Gallwch hefyd ailgylchu unrhyw ffrwythau a llysiau heb eu bwyta, ysgewyll a’r cyfan.

Bwyd Cyflym

Efallai y bydd diwrnod neu ddau dros y Nadolig pan na fydd neb yn teimlo fel coginio. Ar y dyddiau hyn, efallai y byddwch yn archebu bwyd tecawê, ond cofiwch ei bod yn dal yn bosibl ailgylchu sglodion heb eu bwyta a sbarion pitsa.

Yr holl stwff arall

Mae hefyd yr holl stwff arall na ddylech ei anghofio sy’n gallu mynd i’ch cadi bwyd, fel:

• Bagiau te
• Coffi mân
• Pysgod cregyn
• Prydau parod heb eu bwyta
• Cyllyll a ffyrc pren

Reit, rŵan fod gennym ni’r holl wybodaeth … beth am i bawb gymryd rhan a gweithredu’r Nadolig hwn 🙂

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa.

TAGGED:bwydfood waste
Rhannu
Erthygl flaenorol Canmoliaeth gan arolygwyr i ysgol gynradd yn Wrecsam Canmoliaeth gan arolygwyr i ysgol gynradd yn Wrecsam
Erthygl nesaf Y gorau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru!  Cylch Meithrin Min y Ddôl yn ennill gwobr ranbarthol… Y gorau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru!  Cylch Meithrin Min y Ddôl yn ennill gwobr ranbarthol…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle

Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.

Hydref 1, 2026
the longest yarn
DigwyddiadauPobl a lle

Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English