Ar hyn o bryd, rydym yn ymgynghori ar ein Cynllun Creu Lleoedd ac rydym yn cynnal sesiynau galw heibio i sicrhau bod modd i gynifer ag sy’n bosibl o bobl weld y cynlluniau a dweud eu dweud.
Dyma lle byddan nhw’n cael eu cynnal:
- Dydd Gwener 17 Mawrth, Llyfrgell Cefn Mawr, 3.30pm – 5.30pm
- Dydd Llun 20 Mawrth, Llyfrgell y Waun, 3.30pm – 5.30pm
- Dydd Mercher 22 Mawrth, Llyfrgell Gwersyllt, 6pm – 8pm
- Dydd Sadwrn 8 Ebrill, Tŷ Pawb, 12 – 4pm – Mae gweithdy creu lleoedd ar 8 Ebrill wedi’i ganslo a bydd yn cael ei ail-drefnu
Gallwch gymryd rhan yn yr ymgynghoriad yma.
Gallwch ddarllen mwy am y Cynllun Creu Lleoedd a’r ymgynghoriad yma.
Rydym ni’n ymgynghori ar ein Cynllun Creu Lleoedd ar gyfer Canol Dinas Wrecsam
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor, “Rydym am i gynifer ag sy’n bosibl o bobl weld y cynlluniau a rhoi gwybod i ni beth yw eu barn a’u syniadau trwy lenwi’r ymgynghoriad ar-lein.”
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio, “Mae gennym i gyd syniadau gwahanol am sut hoffem i ganol y ddinas edrych, felly cymerwch y cyfle hwn i helpu i lunio ein cynlluniau fel bod gennym ganol dinas y gallwn i gyd fod yn falch ohono.”
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD