Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Wrecsam yn anelu at ddod yn ‘brifddinas chwarae’
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Wrecsam yn anelu at ddod yn ‘brifddinas chwarae’
Pobl a lle

Wrecsam yn anelu at ddod yn ‘brifddinas chwarae’

Diweddarwyd diwethaf: Mai 26, 2023 2:00 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Play activities in Wrexham city centre
RHANNU

Erthygl gwadd gan Chwarae Cymru

Beth am dreulio munud a chofio lle’r oeddem ni’n arfer chwarae pan oeddem ni’n blant.  Gwisgo i fyny…chwilio am drysor…rholio i lawr elltydd…defnyddio siwmperi fel pyst gôl?

Casgliad bin a fethwyd? Gadewch i ni wybod.

Mae’r rhan fwyaf o oedolion yn cofio eu plentyndod fel cyfnod lle’r oedd digonedd o amser i chwarae gyda’u ffrindiau yn yr ardal leol. Rydym yn tueddu i gofio anturiaethau bob dydd- cyfleoedd di-ri y daethom o hyd iddynt ac a grëwyd ein hunain gyda’n brodyr a’n chwiorydd, cefndryd, ffrindiau.

Mae chwarae bob amser wedi bod yn ganolog i iechyd a lles corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol plant, ac mae’n parhau i fod felly. Ar gyfer plant eu hunain, chwarae yw un o agweddau pwysicaf eu bywydau. Maen nhw’n gwerthfawrogi amser, rhyddid a lleoedd da i chwarae. Pan ofynnir iddynt beth sy’n bwysig iddyn nhw, mae plant yn Wrecsam yn sôn yn gyson am chwarae a chwrdd â’u ffrindiau.

Mae gan Wrecsam eisoes weledigaeth glir ar gyfer gwella amodau ar gyfer chwarae plant. Mae hi’n cynnwys:

  • gwella mynediad at leoedd chwarae ac ansawdd y lleoedd hynny
  • sicrhau dealltwriaeth rhieni a gweithwyr proffesiynol o chwarae
  • nodi’r rôl sydd gan rai sy’n gwneud penderfyniadau.

Ar ddiwedd 2021, gosododd Cyngor Wrecsam her i’w hun, sef bod yn ‘brifddinas chwarae’.  Roedd hyn yn rhan o gais Wrecsam i gael ei enwi’n Ddinas Diwylliant y DU 2025.

Mae hanes cryf o chwarae a gwaith chwarae yn Wrecsam, gyda rhwydwaith ymrwymedig o waith chwarae sy’n cynnwys y tri maes chwarae antur a thîm datblygu chwarae’r Cyngor.  Bu’r rhwydwaith gwaith chwarae hwn yn brysur gan gydweithio â grŵp llywio Dinas Diwylliant y DU i gynllunio amrywiaeth o ddigwyddiadau difyr ar gyfer yr ymweliad hollbwysig gan banel beirniaid Dinas Diwylliant yn ôl ym mis Mai 2022.

Er mai Bradford fu’n llwyddiannus, dylid dathlu a chynnal cynnwys chwarae plant fel nodwedd allweddol yng nghais Wrecsam.  Mae Wrecsam yn falch o’r hyn sydd wedi’i gyflawni hyd yma; fodd bynnag, mae targed ganddynt o fod yn ‘Brifddinas Chwarae’.

Y nod yw bod yn sir sy’n arddangos beth mae’n ei olygu i fod yn wirioneddol gyfeillgar i blant, lle mae plant sy’n chwarae yn eu cymuned yn dangos dyheadau o’r fath a bod pob oedolyn yn Wrecsam yn deall eu cyfrifoldeb dros wella amodau ar gyfer chwarae plant.

Mae’r lleoedd y mae plant yn chwarae ynddynt yn eang ac amrywiol. Gall chwarae ddigwydd lle bynnag a phryd bynnag mae amodau’n iawn, dan do ac yn yr awyr agored, mewn lleoedd fel parciau, ysgolion, lleoliadau gofal plant, ysbytai.

Hefyd, mae’r gweithlu chwarae yn grŵp amrywiol iawn, ac nid oes angen cymwysterau chwarae ffurfiol ar y rhan fwyaf ohonynt er mwyn cyflawni eu rolau. Mae’r amrywiaeth o fudd-ddeiliaid a gaiff eu cynnwys gan y diffiniad ‘gweithlu chwarae’ yn cynnwys rhai y mae eu rôl yn effeithio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ar chwarae plant.

Mae hyn yn cynnwys rhai sy’n gweithio mewn addysg, gwasanaethau cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant, iechyd a gwasanaethau ieuenctid.  Mae hefyd yn cynnwys rhai sy’n gweithio gyda chynllunio, tai, mannau agored, parciau, gwasanaethau diwylliannol, gwasanaethau amgylcheddol, teithio, priffyrdd, datblygu cymunedol, hamdden a chwaraeon ar draws gwasanaethau statudol.

Rydym yn gwybod bod chwarae’n cyfrannu at les a chadernid bodau dynol – yn enwedig rhai ifanc. Mae bod â lleoedd croesawgar, digon o amser a chwmni eraill i chwarae gyda nhw bob dydd, yn arwain at ganlyniadau i bob plentyn a pherson ifanc – fel oedolion, mae angen i ni feithrin amgylchedd sy’n cefnogi hyn.

Ynglŷn â Chwarae Cymru

Chwarae Cymru yw’r elusen genedlaethol dros chwarae plant Mae gan bob plentyn hawl i allu chwarae o fewn eu cymunedau ac rydym yn gweithio i gyflawni’r nod hwn ar eu rhan, gan nodi datrysiadau i alluogi mwy o blant i chwarae fwy bob dydd.   Mae Chwarae Cymru yn falch o fod yn gweithio gyda Chyngor Wrecsam i archwilio ffyrdd y gall gyflawni ei ddyhead i fod yn ‘brifddinas chwarae.’

Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://myaccount.wrexham.gov.uk/cy/service/Report_a_missed_waste_collection”] RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Dyfroedd Alun Digwyddiad plannu coed yn Llwyn Stockwell ddydd Sadwrn yma
Erthygl nesaf Wrexham city centre Ymgynghoriad Creu Lleoedd yn mynd ar daith

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 14, 2026
glyndwr
Oeddech chi’n gwybod am Fforwm Landlordiaid 2026 yn Wrecsam?
Digwyddiadau
Medi 14, 2026
Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mayor with the Registrar team
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English