Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Diweddariad ar Ganolfan Adnoddau Acton – rhannwch eich barn i helpu i lunio cynlluniau’r estyniad
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Diweddariad ar Ganolfan Adnoddau Acton – rhannwch eich barn i helpu i lunio cynlluniau’r estyniad
Y cyngor

Diweddariad ar Ganolfan Adnoddau Acton – rhannwch eich barn i helpu i lunio cynlluniau’r estyniad

Diweddarwyd diwethaf: November 17, 2026 4:15 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Acton Resource Centre
RHANNU

Mae cynlluniau i ddiweddaru ac ymestyn Canolfan Adnoddau Acton yn symud ymlaen, a gofynnir i aelodau o’r cyhoedd helpu i lunio’r manylion.

Bydd y cynlluniau, a gadarnhawyd yn gynharach yr haf hwn yn dilyn ymgysylltu â grwpiau lleol, cynghorwyr a thrigolion, yn cael eu gweithredu mewn dau gam.

  • Yn ystod y cam cyntaf bydd Cyngor Wrecsam yn adleoli ei wasanaeth dydd i bobl ag anghenion cymhleth o Ganolfan Cunliffe yn Rhos-ddu i’r ganolfan adnoddau yn Acton.
  • Yn ystod yr ail gam bydd adeilad y ganolfan adnoddau yn cael ei ymestyn i ddarparu ar gyfer mwy o grwpiau a gweithgareddau cymunedol.

Bydd gwaith adeiladu i foderneiddio ac addasu rhannau o’r adeilad yn barod ar gyfer y gwasanaeth dydd yn dechrau cyn bo hir (cam un).

Mae’r cyngor hefyd wedi lansio arolwg fel y gall pobl helpu i lywio cam dau, a deall mwy am y mathau o weithgareddau a chyfleusterau y mae pobl eisiau eu gweld yn y ganolfan.

Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, yr Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion: “Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed y tu ôl i’r llenni a bydd gwaith adeiladu yn dechrau cyn bo hir, yn barod i’r gwasanaeth dydd symud i mewn.

“Mae cynlluniau ar gyfer cam dau, lle bydd estyniad yn cael ei adeiladu i helpu i ddarparu ar gyfer defnydd cymunedol, hefyd yn dod ymlaen. Fodd bynnag, rydym yn awyddus i gael mwy o safbwyntiau fel y gallwn wneud yn siŵr bod y dyluniadau yn diwallu anghenion y gymuned.

“Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod yr adeilad yn cynnig y cyfleusterau cywir ar gyfer y mathau o weithgareddau y mae pobl eisiau eu gweld.

“Os ydych chi’n byw yn Acton neu’r ardal gyfagos, neu os ydych chi’n rhan o grŵp cymunedol sy’n defnyddio’r ganolfan neu efallai eisiau ei defnyddio yn y dyfodol, a fyddech gystal â chymryd pum munud i lenwi ein harolwg. Gallai eich barn wneud gwahaniaeth mawr a helpu i sicrhau ein bod ni’n cael y manylion yn iawn.”

Rhannwch eich barn

Rhannu
Erthygl flaenorol Victorian Mae Marchnad Nadolig Fictoraidd Wrecsam yn dychwelyd y tymor Nadoligaidd hwn

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Victorian
Mae Marchnad Nadolig Fictoraidd Wrecsam yn dychwelyd y tymor Nadoligaidd hwn
Digwyddiadau Busnes ac addysg Pobl a lle
November 17, 2026
Costa Coffee yn noddi coeden Nadolig eleni yn Sgwâr y Frenhines
Costa Coffee yn noddi coeden Nadolig eleni yn Sgwâr y Frenhines
Pobl a lle Y cyngor
November 17, 2026
Homelink at 50
Pen-blwydd Hapus Cyswllt Cartref!
Y cyngor Fideo Pobl a lle
November 17, 2026
Bws
Parcio a theithio – byddwch yn siŵr o sylwi arno!
Y cyngor Pobl a lle
November 17, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mae'n cymryd pob un ohonom: Wrecsam yn nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn 2026
DigwyddiadauY cyngor

Mae’n cymryd pob un ohonom: Wrecsam yn nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn 2026

November 17, 2026
People working in an office
Y cyngorBusnes ac addysg

Lansio rhaglen cymorth cyflogaeth newydd yn Wrecsam

November 16, 2026
Ni fydd creulondeb at fywyd gwyllt yn cael ei oddef ym Mharc Stryt Las
Y cyngor

Ni fydd creulondeb at fywyd gwyllt yn cael ei oddef ym Mharc Stryt Las

November 16, 2026
Foster carers Del and Gary from Wrexham
Y cyngorPobl a lle

Gofalwyr maeth Wrecsam yn cael eu cydnabod â gwobr genedlaethol am eu hymrwymiad diwyro i blant a phobl ifanc mewn gofal

November 12, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English