Daeth plant ysgol lleol yn ddylunwyr am ddiwrnod gyda’r artist Tim Denton yn ddiweddar,
Creodd disgyblion Ysgol Deiniol, Marchwiel batrymau gan ddefnyddio stensiliau a wnaed gan Tim o’r manylion am adeiladau yng nghanol tref Wrecsam. Roedd y plant yn cael hwyl yn ceisio nodi ble roedd yr adeiladau yn Wrecsam. Yna, aethant ati i lunio eu fersiynau dychmygus eu hunain o’r dyluniadau.
Arweiniodd y gweithdy at batrymau y gellid eu cynnwys yn y dodrefn y bydd Tim yn ei wneud gyda grwpiau lleol ar gyfer Neuadd Fwyd Tŷ Pawb pan fydd yn agor y flwyddyn nesaf.
Yn y cyfamser, rhoddodd y gweithgaredd agoriad llygaid i’r disgyblion ar y dreftadaeth bensaernïol y gellir ei darganfod o gwmpas y dref.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Bydd Tim yn cynnal gweithdai pellach gyda Choleg Cambria, Partneriaeth Parc Caia ac UnDegUn.
Am ragor o fanylion cysylltwch ag Oriel Wrecsam ar (01978) 292093.
Darllenwch fwy am waith Tim yn Wrecsam yma.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau
COFRESTRWCH FI