Efallai na allwn ni ddod at ein gilydd yng nghanol y dref i ddathlu Diwrnod Chwarae eleni, ond rydym ni’n dal i ddathlu!
Felly, ar 5 Awst, fe fyddwn ni’n cynnal Diwrnod Chwarae rhithiol, a’r thema fydd ‘Anturiaethau Bob Dydd’.
Fe fydd y gweithgareddau y mae plant yn edrych ymlaen atynt bob blwyddyn yn symud ar-lein; felly bydd plant yn gallu ymlacio i amser stori, a byddant yn gallu defnyddio’r fideos ar ffrydiau ar y diwrnod i gael llawer o hwyl gartref. Fe fyddant hyd yn oed yn gallu ymuno ag amrywiaeth o weithgareddau, cadwch olwg am restr pecyn yr wythnos cynt er mwyn i chi gasglu popeth y bydd ei angen arnoch.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Fe fydd sefydliadau sydd yn cefnogi Diwrnod Chwarae yn gosod heriau hefyd, a byddwch yn dysgu mwy am y rhain yn nes at yr amser.
Mae Diwrnod Chwarae bob amser yn llawn syniadau anhygoel a chreadigol i annog y plant i fynd tu allan a chael hwyl, ac er y bydd pethau’n wahanol eleni, fydd hynny ddim yn newid. Fe fyddwn ni’n cysylltu â Chwarae Cymru sydd yn gofyn i bawb sydd yn cefnogi hawl plant i chwarae i wneud sŵn dros chwarae.
Byddwn yn eich diweddaru am yr hyn sy’n digwydd ac ymhle y gallwch chi ddod o hyd i’r wybodaeth wrth i ni agosáu at 5 Awst.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19