Ydych chi rhwng 11 a 25 oed?
Ydych chi’n teimlo y gellid gwneud mwy i sicrhau fod pobl yn cymryd eu barn o ddifrif a bod pobl ifanc yn cael eu cynrychioli?
Ydych chi’n meddwl y gallech helpu i newid eich ardal leol er gwell, ond yn ansicr ynglŷn â ble i ddechrau?
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Ydych chi erioed wedi ystyried rhoi’ch hunan ymlaen fel ffordd o wneud yn siŵr fod mwy o bobl ifanc yn cael eu clywed?
Mae Senedd yr Ifanc Wrecsam yn chwilio am fwy o aelodau.
Nid oes raid i chi fod yn gysylltiedig â gwleidyddiaeth yn barod nac ar gyngor ysgol nac unrhyw beth felly i ymuno â Senedd yr Ifanc.
Y cyfan sydd ei angen yw’r cymhelliant i gynrychioli pobl ifanc mewn gwleidyddiaeth, a gwleidyddiaeth ymysg pobl ifanc.
Mae Llywodraethau – ar lefel leol, ddatganoledig a chenedlaethol –yn cynllunio newidiadau pwysig a chymhleth drwy’r amser; ond ambell waith, nid yw barn pobl ifanc a’r ffordd y mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar bobl ifanc yn cael eu cymryd i ystyriaeth.
Mae Senedd yr Ifanc yno i wneud yn siŵr fod pobl ifanc yn cael lle wrth y bwrdd dadlau pan drafodir newidiadau mawr a allai effeithio ar weddill eu bywydau.
“Gorau po fwyaf o gynrychiolaeth a gawn”
Yn newyddion.wrecsam.gov.uk rydym wedi cael siawns i siarad ag aelodau Senedd yr Ifanc yn un o’u cyfarfodydd.
Esboniodd Toby Jones, Cadeirydd Senedd yr Ifanc, rôl y grŵp a sut mae’n helpu pobl ifanc i sicrhau fod eu lleisiau’n cael eu clywed.
Mae gwaith diweddar gan Senedd yr Ifanc wedi cynnwys ymateb i ymgynghoriad a osodwyd gan Gyngor Wrecsam ar ran pobl ifanc yn yr ardal, a siarad yn uniongyrchol â chynghorwyr a staff y cyngor am faterion fel cefnogaeth iechyd meddwl, bwlio ac anghydraddoldeb.
Meddai Toby: “Ein nod yw rhoi llais i bobl ifanc Wrecsam.
“Mae’n hawdd tybio mai nid rhywbeth ar gyfer pobl ifanc yw Gwleidyddiaeth a’r Senedd, ond maen nhw’n gallu ymwneud â phethau sy’n bwysig i bawb yn yr ardal leol.
“Gorau po fwyaf o gynrychiolaeth a gawn.”
Ychwanegodd Amy Lloyd, aelod arall o Senedd yr Ifanc: “Rydym wedi medru gweld canlyniadau’r newidiadau yr ydym wedi medru eu gwneud Ac rydym wedi gweld y newidiadau hynny’n digwydd mewn llawer llai o amser.
“Efallai bod pobl ifanc yn meddwl na allant bleidleisio, felly sut allan nhw wneud newid?
“Nid pleidleisio yw popeth – mae ymgysylltu’n bwysig hefyd.”
“Sicrhau fod pobl ifanc yn ymwybodol o faterion cyhoeddus”
Dywedodd y Cynghorydd Paul Rogers, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi: “Mae Senedd yr Ifanc yn gwneud llawer o waith anhygoel i drosglwyddo barn a safbwyntiau pobl ifanc a hefyd yn sicrhau fod pobl ifanc yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd o ran materion cyhoeddus lleol.
“Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymgymryd â rôl yn Senedd yr Ifanc yn bendant gysylltu.”
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r Senedd neu os hoffech unrhyw wybodaeth bellach, ffoniwch 01978 317961.
Fel arall anfonwch e-bost at youngvoices@wrexham.gov.uk
Gallwch hefyd ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i gysylltu drwy dudalen Facebook “Senedd yr Ifanc” neu drwy @wrexhamsenedd ar Twitter.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI