Yn syfrdanol, mae ein tîm TCC yng Nghyngor Wrecsam wedi helpu’r heddlu i wneud 30,000 o arestiadau.

Mae’r tîm wedi llwyddo i sicrhau’r ffigwr trawiadol hwn drwy weithredu a monitro dros 80 o gamerâu wedi eu gosod o amgylch Wrecsam.

 “Ein helpu i wneud ein gwaith”

Dywedodd yr Arolygydd Paul Wycherley, Heddlu Gogledd Cymru, “Mae TCC Wrecsam yn ein helpu i wneud ein gwaith bob dydd. Rydym yn cael y ffrydiau byw ar ein cyfrifiaduron pen desg, rydym bob amser wedi ein cysylltu ac mae gennym ddau swyddog penodol ar gyfer canol y dref a phedwar Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu sydd i gyd wedi eu cysylltu â’r system TCC. Yn yr ychydig wythnosau diwethaf yn unig, mae TCC wedi ein helpu i ddod o hyd i bobl sydd ar goll, pobl sy’n yfed a gyrru ac i arestio unigolion ar ôl digwyddiad mawr o anhrefn cyhoeddus ar y Stryt Fawr. Safon y staff yn yr ystafell reoli TCC sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn gan eu bod yn bobl o’r radd flaenaf sydd â’r cyfarpar angenrheidiol ac wedi eu hyfforddi’n dda.”

 

Helpu sicrhau gostyngiad o 56% mewn troseddu

Ers i’r tîm gael ei sefydlu ym 1996, maent wedi helpu i wneud 30,000 o arestiadau. Ac, yn ogystal â helpu wrth wneud yr arestiadau hyn, ers cyflwyno TCC yng nghanol y dref ynghyd â datblygu’r tîm heddlu canol y dref, cafwyd gostyngiad o dros 56% mewn troseddau yn ystod y flwyddyn gyntaf y gweithredwyd y cynllun. Arweiniodd hyn at wobr genedlaethol i’r tîm ym 1998.

Mae’r bartneriaeth wedi mynd o nerth i nerth gyda’r tîm TCC yn gweithio mewn partneriaeth gyda swyddogion lleol yr heddlu i helpu monitro digwyddiadau mawr, fel gig ddiweddar y Stereophonics, gemau pêl-droed yn ogystal ag economi gyda’r nos y dref.

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .

Dywedodd y Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol, “Rydym yn ffodus i gael tîm TCC penodol o fewn Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Maent yn ganolog i helpu sefydliadau sy’n bartneriaid â ni i wneud arestiadau a chadw strydoedd Wrecsam yn ddiogel. Mae TCC a’r tîm ymateb i ddigwyddiadau yn gweithio law yn llaw ac wedi bod yn arbennig o lwyddiannus wrth atal troseddau yn y fwrdeistref sirol.”

Gal TCC helpu lleihau ofn troseddau yn ogystal â gwneud i bobl deimlo’n ddiogel.  Maent hefyd yn ffynhonnell wych o wybodaeth fyw. Gallwch ddilyn eu cyfrif twitter (@TCCWcmCCTVWxm) i gael diweddariadau traffig a gwybodaeth am ddigwyddiadau mawr, diogelwch y cyhoedd ac atal troseddu.

Mae’r tîm, sy’n cynnwys 7 o staff, hefyd yn monitro larymau yn holl adeiladau’r cyngor ac yn gweithredu 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Eisiau gwybod mwy?

Edrychwr ar y cwestiynau cyffredin

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB