Roedd yr wythnos ddiwethaf yn Wythnos Cydraddoldeb Hiliol, digwyddiad ledled y DU sy’n tynnu sylw at waith miloedd o sefydliadau ac unigolion ar draws y wlad sy’n gweithio i fynd i’r afael â’r rhwystrau o ran cydraddoldeb hiliol.
Yn Wrecsam, bu i ni daflu goleuni ar waith gwych prosiect Canolfan Amlddiwylliannol Gogledd Ddwyrain Cymru, a sefydlwyd gan Gyngor Hil Cymru ac sy’n dod â Tŷ Pawb a Thîm Cydlyniant Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru yng Nghyngor Wrecsam ynghyd.
Mae’r prosiect hwn yn canolbwyntio ar rymuso cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrif Ethnig sy’n byw ac yn gweithio yn Wrecsam ac ardal Gogledd Cymru ehangach, ac mae’n pwysleisio pa mor bwysig yw hi fod hanes a dyfodol pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrif Ethnig yn cael ei gynrychioli i sicrhau bod eu cyfraniad i Gymru yn cael ei gydnabod.
<
Ar hyn o bryd, mae’r prosiect hwn yn ceisio sicrhau bod diwylliant, treftadaeth a gweithgareddau sy’n ymwneud â chwaraeon yn adlewyrchu beth hoffai’r grwpiau hyn ei weld yn eu hardal leol.
Er mwyn gwneud yn siŵr bod cyllid ar gael ar gyfer y prosiect hwn, mae Wrecsam wedi elwa o ‘Gronfa Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon Cymru Wrth-hiliol’ Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol gyda chyfrifoldeb am Tŷ Pawb: “Dros dair blynedd, rydym wedi cael £240,000 gan y gronfa hon i gefnogi Canolfan Amlddiwylliannol Gogledd Ddwyrain Cymru, sydd wedi’i leoli yn Tŷ Pawb. Mae’r prosiect hwn eisoes yn cefnogi dros 25 o grwpiau cymunedol ac ymarferwyr sydd yn, neu’n cefnogi, cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrif Ethnig.
“Mae’r cyllid hwn yn golygu y gallwn ni wneud mwy fyth i rymuso mwy o grwpiau cymunedol ar lawr gwlad i arwain a manteisio ar gyfleoedd diwylliannol, celfyddydol, treftadaeth a chwaraeon, sy’n cefnogi ymdeimlad o berthyn a chydraddoldeb yng Nghymru.”
Dywedodd y Cynghorydd Paul Roberts, Aelod Arweiniol Diogelwch Cymunedol a Phartneriaethau: “Fel rhan o’r cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru, rydym wedi rhoi grant gwerth £2,000 i 16 o grwpiau cymunedol ar draws Gogledd Cymru i gefnogi prosiectau sy’n adlewyrchu ac yn dathlu cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein cymunedau. Yn Wrecsam, mae hyn wedi cynnwys cyllid ar gyfer Larynx Entertainment, grŵp o artistiaid Hip Hop hil gymysg yn Wrecsam; Grwpiau Affricanaidd Wrecsam a fydd yn defnyddio’r arian i berfformio cerddoriaeth fyw a dawns Affricanaidd yn ogystal â sioe ffasiwn; a BAWSO a fydd yn cynnal sesiwn groeso i bobl o Kenya sydd newydd symud i ardal Wrecsam i fyw.
“Rwy’n croesawu’r prosiectau hyn ac yn eich annog chi i fynd i’r digwyddiadau.”
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD