Dros y Nadolig mae’n debyg y byddwch chi’n gweld eich bod naill ai’n prynu neu’n derbyn pethau na fyddwch o reidrwydd yn eu gweld trwy weddill y flwyddyn.
Felly, er ein bod wedi arfer ailgylchu’r eitemau rydym yn delio â nhw gydol y flwyddyn, gallai’r eitemau mwy Nadoligaidd hynny wneud i ni feddwl “fedra i ailgylchu hwn?” neu efallai “pa rannau o hwn fedra i eu hailgylchu?”
Gan ystyried hyn, roeddem yn credu y byddai’n syniad da i sôn gyda chi am rai o’r pethau Nadoligaidd y gallwch chi eu hailgylchu.
Tybiau mawr o siocled
Bydd nifer ohonom yn cael un o’r rhain ar ryw adeg dros gyfnod y Nadolig. Wel, maen nhw’n ddefnyddiol pan mae ffrindiau a theulu’n picio heibio a dyma’r anrheg mae nifer ohonom yn troi ato fel anrheg i’r bobl hynny sy’n anodd prynu ar eu cyfer.
Felly cofiwch, da chi, bod modd ailgylchu’r cynwysyddion hyn – Quality Street, Celebrations, Roses, Heroes ac ati – gyda’ch holl blastigion eraill. Mae hefyd modd ailgylchu’r rhai alwminiwm traddodiadol.
Calendrau Adfent
Os yw eich teulu’n hoff o galendrau Adfent, mae’n bwysig i wybod bod un neu ddau o bethau y gallwch eu hailgylchu oddi arnynt.
Gallwch ailgylchu unrhyw becyn cardbord gyda’ch papur cyn belled nad yw’n cynnwys gliter neu ychwanegion plastig.
Yn anffodus, mae’r rhan fwyaf o galendrau Adfent yn cynnwys daliwr plastig y tu mewn, ond dylech allu ailgylchu hwn gyda’ch plastigion eraill.
Ffordd wych o osgoi plastig yn llwyr yw bod yn greadigol a cheisio creu eich calendr Adfent eich hun.
Mae sawl gwahanol ffordd o greu eich calendr Adfent eich hun. Os ewch chi ar Google yn sydyn, fe ddowch o hyd i sawl gwahanol ffordd o fynd ati, o ddulliau syml i rai ychydig yn fwy heriol.
Os ydych chi’n rhoi cynnig arni, cadwch at ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu wrth greu eich calendr. Dim ond cardbord, siswrn, glud a phinnau lliw (nid rhai gliter) sydd eu hangen ar gyfer amryw o’r canllawiau ac maen nhw’n dal i edrych yn ffantastig ac mae’n bosibl eu hailgylchu yn gyfan-gwbl.
Os nad oes amser gennych i greu un drosoch eich hun, gallech chi hyd yn oed ystyried prynu calendr Adfent y gellir eu hail-ddefnyddio. Mae nifer o gwmnïau rŵan yn gwerthu calendrau wedi’u creu o bren a ffabrig, sy’n wych i’w defnyddio dro ar ôl tro.
Ffoil glân
Mae’r rhan fwyaf ohonoch mae’n debyg yn ymwybodol bellach y gallwch ailgylchu ffoil glân yn eich bocs gwyrdd, bocs ar olwynion canol, ond mae’n debyg y byddwch yn defnyddio mwy o ffoil na’r arfer dros y Nadolig.
Er enghraifft, gallwch ailgylchu dalwyr ffoil o unrhyw fins peis rydych yn eu cael, fel y gallwch gyda’r ffoil rydych yn ei gael gydag unrhyw ddarnau arian siocled rydych yn eu cael.
Er bod y ddau beth yma’n ymddangos yn bethau cymharol fach, bydd nifer ohonom yn eu cael dros y Nadolig felly bydd yn gwneud gwahaniaeth os bydd pawb yn eu hailgylchu.
Erosolau
Gadewch i ni ddyfalu…Lynx Affrica eto oedd e? Mae persawr yn anrheg Nadolig gyffredin, felly os ydych chi’n cael unrhyw bersawr, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ailgylchu eich erosolau gwag yn eich blwch gwyrdd/blwch olwynion canol pan fyddwch chi’n gorffen gyda nhw.
Cardiau Nadolig ac amlenni
Fe allwch chi ailgylchu cardiau Nadolig (heb gliter ac ar ôl tynnu unrhyw rubanau) yn ogystal ag amlenni gyda gweddill eich papur. Fe allwch chi ailgylchu bagiau anrhegion cerdyn a phapur fel yma hefyd – ond cofiwch dynnu unrhyw handlenni nad oes modd eu hailgylchu.
Papur lapio
Dydi hi ddim yn bosib ailgylchu pob math o bapur lapio. Allwch chi ddim ailgylchu’r papur ffoil sgleiniog, felly peidiwch â’i brynu. Allwch chi chwaith ddim ailgylchu papur lapio gyda gliter arno.
Mae’r rhan fwyaf o bapur lapio disglair arall wedi’i lamineiddio, ac ni ellir ei ailgylchu chwaith. Mae hefyd angen i chi edych i weld os oes ychwanegiadau plastig ar y papur ac osgoi’r rhain.
Y newyddion da ydi bod pob math arall o bapur lapio’n iawn i’w ailgylchu. Os byddwch yn cadw draw o ffoil, gliter, papur wedi’i lamineiddio ac unrhyw ychwanegiadau plastig, dylech chi allu ailgylchu’r holl bapur lapio pan fyddwch wedi gorffen ei ddefnyddio…gwnewch yn siŵr eich bod yn tynnu unrhyw selotep ymlaen llaw.
Poteli a chaniau
Mae’n debyg y bydd gennych chi fwy o boteli gwydr, poteli plastig a chaniau alwminiwm nag arfer hefyd dros y Nadolig, ond cofiwch eu hailgylchu yn yr un modd ag y byddech chi’n ei wneud weddill y flwyddyn.
Os bydd eich bocsys ailgylchu chi’n gorlenwi, fe allwch chi adael unrhyw ddeunyddiau dros ben i’w hailgylchu mewn bagiau plastig clir wrth ymyl eich blychau ailgylchu ar y diwrnod casglu, ac fe awn ni â nhw i’w hailgylchu (gan adael y bagiau plastig i chi eu hailddefnyddio).
Mae jariau gwydr (o saws llugaeron ac ati) yn gallu bod yn ddefnyddiol ar gyfer storio unrhyw fân betheuach o amgylch y tŷ, felly efallai ystyriwch a oes modd i chi wneud defnydd o’r rhain cyn i chi eu hailgylchu.
Ond os oes gennych chi ddeunyddiau ychwanegol i’w hailgylchu, cofiwch wahanu’r deunyddiau fel y byddech chi’n ei wneud fel arfer…er enghraifft, os oes gennych chi boteli gwydr a phlastig dros ben, rhowch y rhai plastig mewn un bag clir a’r rhai gwydr mewn bag clir ar wahân.
Coed Nadolig
Gallwch dorri coed Nadolig go iawn (nid rhai artiffisial) yn ddarnau bach a’u rhoi yn eich biniau gwastraff gardd.
Goleuadau Nadolig diffygiol
Gallwch fynd â hen oleuadau Nadolig neu rai diffygiol i unrhyw un o’n canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref i’w hailgylchu. Bydd un o’r staff yno yn gallu eich rhoi chi ar ben ffordd.
Ddylech chi fyth dan unrhyw amgylchiadau geisio gwaredu eitemau trydanol yn eich gwastraff cyffredinol!
Eitemau trydanol eraill
Cofiwch fod pob math o eitemau trydanol yn gallu cael ei ailgylchu yn ein canolfannau ailgylchu.
Ydych chi wedi uwchraddio i ffôn newydd ar gyfer y Nadolig ac nid ydych chi’n siŵr beth i’w wneud gyda’ch hen un? Yn gyntaf, ystyriwch a allai rhywun arall ei ailddefnyddio – gallech chi ei roi i ffrind neu hyd yn oed ei werthu ymlaen. Os nad yw ailddefnyddio’r ffôn yn opsiwn, gallwch ddod ag ef i un o’r canolfannau ailgylchu er mwyn i ni ei ailgylchu.
Batris
Os oes gennych deulu ifanc, efallai y byddwch chi’n gweld llawer o fatris dros y Nadolig hefyd. Gallwch chi ailgylchu pob math o fatris yn y tair canolfan ailgylchu yn Wrecsam – hyd yn oed batris ceir!
Ond os ydych am ailgylchu eich batris cartref cyffredin yn unig, ac os yw’n fwy cyfleus i chi, dylai fod modd i chi eu hailgylchu mewn siop leol hefyd.
Mae hynny oherwydd bod rhaid, ers mis Chwefror 2010, i siopau sy’n gwerthu mwy na 32kg o fatris y flwyddyn (tua 345 x pedwar pecyn o fatris AA) ddarparu cyfleusterau ailgylchu batris yn y siop, felly mae’r holl archfarchnadoedd a manwerthwyr mwy yn darparu’r rhain.
Ailddefnyddio eitemau
Allwch chi ddim ailgylchu rhubanau, felly os byddwch chi’n defnyddio’r rhain, ystyriwch eu cadw i’w hailddefnyddio’r flwyddyn nesaf.
Os bydd rhywun yn rhoi teledu neu chwaraewr CDs newydd i chi’n anrheg Nadolig, meddyliwch beth allwch chi ei wneud gyda’r hen rai. Fe fyddai siop ailddefnyddio Nightingale House yng nghanolfan ailgylchu Bryn Lane wth eu boddau’n eu cymryd oddi arnoch chi.
Gallwch hefyd roi unrhyw anrhegion Nadolig nad ydych chi mo’u heisiau i’r siop ailddefnyddio. Fe fyddan nhw’n siŵr o fod yn ddiolchgar iawn.
Casgliadau biniau dros gyfnod yr ŵyl – Newyddion Cyngor Wrecsam


