Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhedwyr i redeg Marathon Llundain i helpu brwydro yn erbyn Sglerosis Ymledol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall
Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor
Lucy Cowley
Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Rhedwyr i redeg Marathon Llundain i helpu brwydro yn erbyn Sglerosis Ymledol
Pobl a lle

Rhedwyr i redeg Marathon Llundain i helpu brwydro yn erbyn Sglerosis Ymledol

Diweddarwyd diwethaf: 2018/02/16 at 11:48 AM
Rhannu
Darllen 5 funud
Rhedwyr i redeg Marathon Llundain i helpu brwydro yn erbyn Sglerosis Ymledol
RHANNU

Bydd Louise Strachan a Sheila Rodenhurst, y ddwy o Lannerch Banna, yn cymryd rhan ym Marathon Llundain Virgin Money ddydd Sul, 22 Ebrill.

Cynnwys
“Y tro cyntaf i ni wynebu her marathon” “Louise a Sheila – ymgyrchwyr Sglerosis Ymledol angerddol a gwybodus”

Bydd y ddwy yn rhedeg dros y Gymdeithas Sglerosis Ymledol – mae Ryan, mab Louise, a Gareth, mab Sheila yn dioddef o’r cyflwr.

Mae’r ddeuawd eisoes wedi cymryd rhan mewn nifer o rasys 10k fel rhan o’u hyfforddiant, ac wedi cynnal llu o ddigwyddiadau codi arian i’w helpu i gyrraedd eu targed cyfun o £4000 – ac mae ganddynt eu golygon ar Hanner Marathon Wrecsam.

CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Mae’n rhaid i’r ddeuawd godi £2000 yr un fel rhan o’u hymdrech godi arian ar gyfer y marathon, a hyd yma maent wedi codi £2,200 gyda’i gilydd drwy gyfres o ddigwyddiadau fel boreau coffi, arwerthiannau cist car, ffeiriau Nadolig, golchi ceir a chyfarfodydd brecwast.

Yr wythnos diwethaf, cafodd y ddeuawd hefyd rodd gan y Cyng John Pritchard, Maer Wrecsam.

Maent hefyd wedi trefnu digwyddiadau pellach gan gynnwys noson gwis, sioe ffasiwn a raffl – ond maent yn gwybod y bydd eu hyfforddiant at y marathon yn cymryd mwy o’u hamser wrth i’r dyddiad nesáu, ac felly maent yn chwilio am roddion i’w helpu i gyrraedd eu targed.

“Y tro cyntaf i ni wynebu her marathon”

Dywedodd Ms Strachan: “Mae’r ddwy ohonom wedi bod yn codi arian ar gyfer y Gymdeithas Sglerosis Ymledol ers peth amser rŵan, ond dyma’r tro cyntaf i ni wynebu her marathon!

“Rydym mor falch ein bod wedi cael y cyfle hwn – mae Marathon Llundain yn denu llawer o gyhoeddusrwydd ynddo’i hun a byddwn ymhlith 300 o bobl sy’n cymryd rhan yn y ras ar ran y gymdeithas Sglerosis Ymledol.

“Rydym yn gobeithio y gallwn godi gymaint o arian â phosibl drwy hyn, a helpu’r Gymdeithas Sglerosis Ymledol i wthio i gael rhagor o gyfleoedd trin, ymchwil a chefnogaeth i’r rhai sy’n mynd drwy’r hyn all fod yn gyflwr poenus, rhestredig a blinedig.”

Ychwanegodd: “Mae’r ddwy ohonom yn gweithio i’r Rainbow Centre yn Llannerch Banna, sydd wedi ein cefnogi drwy ganiatáu defnydd llawn o’r cyfleusterau.”

Dywedodd Ms Rodenhurst: “Yn ogystal â byw yn yr un ardal a gweithio gyda’n gilydd, mae Louise a minnau wedi bod yn codi arian gyda’n gilydd ar gyfer y Gymdeithas Sglerosis Ymledol ers peth amser gan fod ein meibion yn dioddef ohono.

“Rydym wedi derbyn cefnogaeth fawr yn Llannerch Banna ac Owrtyn drwy gydol ein gyrfaoedd codi arian ac rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth honno – ond rydym yn gobeithio gan ein bod rŵan yn mynd ati i wneud rhywbeth mor fawr â Marathon Llundain, y gallwn wthio ein cyhoeddusrwydd a chodi arian hyd yn oed ymhellach.

“Dechreuom redeg ym mis Mawrth y flwyddyn ddiwethaf fel ffordd o gadw’n heini a threulio amser gyda phobl debyg – ac mewn eiliad o wallgofrwydd, mi wnaethom ni benderfynu gwneud cais ar gyfer Marathon Llundain i weld os byddem yn cael lle.”

 “Louise a Sheila – ymgyrchwyr Sglerosis Ymledol angerddol a gwybodus”

Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Maer Wrecsam: “Roeddwn yn falch iawn i allu cwrdd â Louise a Sheila a’u croesawu i Barlwr y Maer yr wythnos diwethaf, ac rwy’n gobeithio fod y rhodd a gyflwynais iddynt yn un o nifer a fydd yn eu helpu i gyflawni eu targed.

“Mae’r ddwy yn amlwg yn eiriolwyr angerddol a gwybodus dros gymorth Sglerosis Ymledol, ac rwy’n dymuno pob lwc iddynt ym Marathon Llundain ar 22 Ebrill.”

I gael rhagor o wybodaeth neu i roi rhodd, ewch i https://uk.virginmoneygiving.com/Team/SheilaLou neu https://uk.virginmoneygiving.com/LouiseStrachan666

Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.

DILYNWCH NI AR SNAPCHAT

Rhannu
Erthygl flaenorol Gwerthwyr digroeso Gwerthwyr digroeso
Erthygl nesaf Goleuadau Traffig B5426 ym Minera o Fawrth 5 Goleuadau Traffig B5426 ym Minera o Fawrth 5

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor Awst 8, 2025
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor Awst 8, 2025
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall Awst 8, 2025
Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor Awst 7, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Family Teulu
Pobl a lleY cyngor

Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth

Awst 8, 2025
ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 8, 2025
Lucy Cowley
DigwyddiadauPobl a lle

Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni

Awst 6, 2025
Jayne Bryant
Busnes ac addysgPobl a lle

Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m

Awst 5, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English